Un o brif amcanion Bwrdd yr Iaith Gymraeg yw cynyddu cyfleoedd i ddefnyddio'r iaith Gymraeg. Fel rhan o hyn, mae'r Bwrdd yn credu bod cynyddu defnyddio'r Gymraeg yn y trydydd sector yn elfen hollbwysig o gyrraedd y nod hwn. Mae'r amcan hwn yn cyd-fynd â dymuniad Llywodraeth y Cynulliad i gynyddu dwyieithrwydd yn y sector. Mae'r nod hwn hefyd yn bwysig o ran y pwyslais cynyddol a roir ar swyddogaeth y trydydd sector i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus, gyda phwyslais arbennig ar weithio mewn partneriaeth.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae nifer o fudiadau gwirfoddol, cenedlaethol a lleol wedi mynd ati i ddarparu gwasanaethau dwyieithog mewn modd creadigol a brwdfrydig, a hynny y tu hwnt i ofynion Deddf yr Iaith Gymraeg 1993. Maent wedi gwneud hynny o’u gwirfodd.
Mae llawer o gyrff wedi gwneud hyn trwy lunio Cynlluniau Iaith Gymraeg sy’n dweud sut y bwriedir mynd ati i ddarparu a datblygu gwasanaethau dwyieithog. Mae'r cyrff hyn yn cydnabod bod cynnig gwasanaeth yn newis iaith y defnyddiwr yn rhan annatod o arfer da ac o gyfle cyfartal.
Edrychwch drwy'r dolenni ar y dde am ragor o wybodaeth.