Cyrff Gwirfoddol a Deddf yr Iaith Gymraeg
Nid yw Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn gosod dyletswydd gyfreithiol uniongyrchol i gynnig gwasanaethau yn Gymraeg ar fudiadau gwirfoddol, ond mae goblygiadau i'r sector mewn rhai amgylchiadau. Er enghraifft, rhaid i fudiadau preifat neu wirfoddol sy'n darparu gwasanaethau gofal neu bersonol arall ar ran cyrff statudol (fel cynghorau lleol neu ymddiriedolaethau iechyd) ddilyn gofynion cynllun iaith y corff hwnnw.
Er nad yw’n ofyniad statudol i gyrff gwirfoddol fabwysiadu Cynllun Iaith, mae nifer o gyrff gwirfoddol wedi mynd ati i baratoi a gweithredu Cynllun Iaith. Mae nifer o resymau dros wneud hyn:
- Mae’n cynnig gwell gwasanaeth i siaradwyr Cymraeg.
- Mae’n cydnabod natur ddwyieithog Cymru.
- Mae’n hwyluso mynediad i weithgareddau.
- Mae’n codi delwedd Gymreig y mudiad ac yn cydnabod perchnogaeth gan y Cymry Cymraeg a di-Gymraeg fel ei gilydd.
- Mae’n cryfhau apêl y mudiad.
- Mae’n galluogi’r mudiad i ddarparu gwasanaethau effeithiol.
- Mae’n cryfhau apêl y mudiad wrth godi arian.
- Mae’n sicrhau fod y mudiad yn cydymffurfio â gofynion ieithyddol a diwylliannol deddfwriaethau eraill.
- Mae’n arddangos ewyllys da.
- Mae’n fodd o ddenu gwirfoddolwyr Cymraeg.
- Mae mabwysiadu Cynllun Iaith Gymraeg yn arfer da ac yn rhan o bolisïau cydraddoldeb a gofal cwsmer ehangach nifer o gyrff gwirfoddol.
Sut mae paratoi Cynllun Iaith?
Yn 2006 mae CGGC mewn partneriaeth a Bwrdd yr laith Gymraeg wedi diweddaru 'O'n Gwirfodd - Canllawiau Arfer Da' (gweler ochr dde'r dudalen). Cyhoeddwyd y canllaw ym 1996 yn wreiddiol i gynnig cymorth i fudiadau gwirfoddol bach a mawr ar ddatblygu cynlluniau iaith Gymraeg. Mae’r gyfrol newydd hon yn ganllaw ymarferol i greu polisi iaith Gymraeg weithredol i’r sector gwirfoddol yng Nghymru.
Er mwyn cymryd y camau nesaf tuag at gymeradwyo eich cynllun iaith neu am unrhyw gyngor ar ddarparu gwasanaethau dwyieithog, cysylltwch â Swyddog Sector Gwirfoddol Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
Enghreifftiau o Gynlluniau Iaith Gwirfoddol
Gweler ochr dde'r sgrîn am enghreifftiau o Gynlluniau Iaith Gwirfoddol.
Grant Hyrwyddo
Nod y Grant Hyrwyddo yw ysgogi sefydliadau i weithredu'n ddwyieithog a'u hannog i ddefnyddio’r Gymraeg ochr yn ochr â'r Saesneg. Gweler ochr dde'r dudalen.