Mae'r agwedd hon yn tanseilio'r cysyniad o ddewis; bydd yn well gan rai siaradwyr Cymraeg wneud pethau yn Gymraeg a hynny am nifer o resymau.
Mae diffyg dewis yn medru cael dylanwad negyddol ar hunan-barch unigolion. Mae'n gwadu rhan hanfodol o hunaniaeth person. Nid yw'n cydnabod gwahaniaethau rhwng unigolion.
Mae'n gwneud y gweithiwr neu'r mudiad yn fwy pwysig na'r unigolyn dwyieithog.