Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Yn adran hon:
Help / Cymorth

Rhaid cael Adobe Acrobat Reader er mwyn gweld ffeiliau PDF ar y wefan hon.

Nôl Acrobat Reader
Buddsoddwr Mewn Pobl
Rwy'n rhiant sengl. Sut y gallaf fagu fy mhlentyn yn ddwyieithog? 

Mae bron pob llyfr ac astudiaeth achos am blentyn dwyieithog yn cymryd yn ganiataol bod dau riant yn y teulu. Yn ddamweiniol ac nid o fwriad, mae hyn yn tueddu i arwain at y dybiaeth mai dim ond gobaith bach – neu ddim gobaith o gwbl – o fagu plentyn yn ddwyieithog sydd gan deulu un-rhiant.

Mae'n bosibl magu plentyn yn ddwyieithog mewn teulu un-rhiant. Mae hyn oherwydd y gall y plentyn gaffael dwyieithrwydd y tu allan i'w berthynas gyda'i fam neu'i dad. Pa ieithoedd mae'r brodyr a'r chwiorydd yn eu siarad? Pa iaith mae'r ewythrod a'r modrybedd, cymdogion a chyfeillion yn ei siarad â'r plentyn? A yw'r plentyn yn mynd i ysgol feithrin neu ysgol lle mae iaith wahanol i iaith y cartref yn cael ei siarad? Beth yw iaith drechol y gymuned? Os yw plentyn yn cael digon o brofiad o iaith wahanol i iaith y cartref, gall ddod yn ddwyieithog yn syndod o rwydd. Er enghraifft, os yw'r fam yn siarad un iaith yn gyson â'r plentyn, gall y plentyn gael digon o brofiad o ail iaith mewn ysgol feithrin, yn y stryd ac yn yr ysgol i sicrhau datblygiad ieithyddol deuol.


« Nôl

Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd