Mae plentyn yn cael ei eni yn barod i ddod yn ddwyieithog ac yn amlieithog. Mae gormod yn cael eu cyfyngu i fod yn uniaith. Nid oes yr un rhiant nac athro gofalgar yn gwrthod i blant y cyfle i ddatblygu'n gorfforol, yn gymdeithasol, yn addysgol neu'n emosiynol. Ond rydym yn gwrthod i lawer o blant y cyfle i ddatblygu yn ddwyieithog neu'n amlieithog.
Mae iaith yn fater o gyfathrebu (ac o hunaniaeth). Mae angen iaith arnom i gyfleu gwybodaeth, i adeiladu perthnasau, i chwarae gemau ac i adrodd hanesion, i wneud cyfeillion newydd ac i weithio mewn grwpiau. Mae rhai rhieni dwyieithog yn ffwdanu'n ddi baid am gywirdeb gramadeg a geirfa, peidio â chymysgu dwy iaith, a chyfieithu medrus ar lafar ac ar bapur. Yn lle hynny, y ffactor pwysicaf wrth fagu plentyn dwyieithog yw gwneud ei ddatblygiad ieithyddol yn bleser, yn brofiad cadarnhaol y mae'n ei fwynhau. Mae angen i blentyn roi gwerth ar ei ddwy iaith, ei ddau ddiwylliant, ac mewn ffordd fach, ddod yn ymwybodol o fanteision bod yn ddwyieithog ac yn ddeuddiwylliannol.
Mae'n bwysig bod agwedd plentyn tuag at ei ddwy iaith (a'i symbyliad i ymestyn ei ddwy iaith) yn cael ei annog yn gyson. Dangoswch eich bod wrth eich bodd gyda chamau bach ymlaen mewn datblygiad dwyieithog. Mae pat ar y cefn, dweud ‘da iawn' yn dawel, winc neu wên yn gwneud gwyrthiau i ego ieithyddol plentyn. Er enghraifft, pan fo plentyn wedi newid iaith yn gywir o flaen nain fel ei bod hi'n deall, neu wedi cyfieithu rhywbeth ohono'i hun i gyfaill er mwyn helpu perthnasau mewn grŵp, dangoswch yn dawel eich bod wrth eich bodd. Mae angen anogaeth arnom i gyd i barhau i ddysgu a chaboli ein sgiliau. Bydd anogaeth a chanmoliaeth wedi ei chyfeirio'n briodol yn creu'r awyrgylch cadarnhaol, yr ethos gofalgar a'r parodrwydd i helpu yn y teulu a fydd yn gefn i ddatblygu dwyieithrwydd.