Rhywbeth sydd wedi cael effaith fawr ar ieithoedd yn y byd yn ddiweddar yw'r defnydd o'r rhyngrwyd. Er bod llawer o ddefnydd o'r rhyngrwyd yn Saesneg, mae ieithoedd eraill wedi tyfu yn y blynyddoedd diwethaf. Bellach mae gwybodaeth a ffeirio geiriau yn llawer o ieithoedd y byd. Sut mae'r fath newidiadau cyflym mewn technoleg a chyfathrebu yn effeithio ar ddwyieithrwydd plant?
Saesneg sydd wedi bod yn drechol ar y rhyngrwyd, ac mae'r pwyslais, y gwerth a'r swyddogaeth ychwanegol a gaiff y Saesneg ar y rhyngrwyd yn bryder mawr i ieithoedd mwyafrifol eraill ac ieithoedd lleiafrifol. Fodd bynnag, wrth i fwy o fusnesau ddechrau hysbysebu gan ddefnyddio tudalennau gwe, mae rhwydweithiau rhanbarthol wedi datblygu sy'n defnyddio ieithoedd lleol ar y Rhyngrwyd. Hefyd, wrth i ysgolion, colegau, prifysgolion, llywodraeth leol, llyfrgelloedd, swyddfeydd cofnodion ac asiantaethau gwybodaeth lleol fynd ar-lein, mae eu tudalennau lleol yn aml yn yr iaith ranbarthol, neu maent yn ddwyieithog. Felly, tra bo'r Saesneg yn drechol ar y we fyd-eang ar y dechrau, mae ieithoedd eraill wedi cynyddu eu defnydd o erfyn cyfathrebu'r mileniwm newydd.
Pobl nad ydynt yn siarad Saesneg yw'r grŵp o ddefnyddwyr newydd y rhyngrwyd sydd wedi tyfu gyflymaf, gyda llawer yn defnyddio'r rhyngrwyd yn ddwyieithog neu'n amlieithog. Cofiwch hefyd am y rhaglenni cyfrifiadurol lu sydd ar gael yn y Gymraeg - cewch yr wybodaeth ar y wefan hon.