Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Help / Cymorth

Rhaid cael Adobe Acrobat Reader er mwyn gweld ffeiliau PDF ar y wefan hon.

Nôl Acrobat Reader
Buddsoddwr Mewn Pobl
Aelodau 

Penodir aelodau'r Bwrdd yn unol â’r drefn a argymhellwyd gan y Pwyllgor ar Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus (Pwyllgor Nolan).

Cafodd Meri Huws ei phenodi'n Gadeirydd y Bwrdd ym mis Awst 2004 a chyn hynny bu'n aelod o'r Bwrdd rhwng 1993 a 1997. Fe'i hailbenodwyd ym mis Ebrill 2007.

Yn enedigol o Gaerfyrddin, derbyniodd ei haddysg yn Ysgol Uwchradd Abergwaun cyn mynd ymlaen i astudio'r Gyfraith a Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, ac yna i astudio ym Mhrifysgol Rhydychen.

Wedi dychwelyd i Gymru, treuliodd peth amser fel Gweithiwr Cymdeithasol yn Sgubor Goch, Caernarfon, ac yn ystod y cyfnod hwn bu'n Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg rhwng 1981 a 1983.

Oddi yno aeth i ddarlithio i'r Coleg Normal ym 1984, Prifysgol Casnewydd rhwng 1989 a 1997, cyn symud i Swyddfa Academaidd Prifysgol Dinas Dulyn hyd 1999 ac yna i Brifysgol Bangor lle bu'n Is-Ganghellor.   Ers Awst 2009, mae'n ddirprwy Is-Ganghellor [Arloesi, Cymuned a Sgiliau] ym Mhrifysgol Y Drindod Dewi Sant.

Mae Meri Huws yn Aelod o'r Blaid Lafur.

Meri Huws, Cadeirydd y Bwrdd

Mae’r aelodau'n cynrychioli ystod eang o’r sbectrwm gwleidyddol, o gefndir amrywiol, ac yn cynnig arbenigedd a phrofiad perthnasol mewn meysydd o ddiddordeb mawr i’r Bwrdd:

  • Cynllunio ieithyddol
  • Addysg a hyfforddiant
  • Darlledu
  • Cyfryngau newydd
  • Rheolaeth busnes ac ariannol
  • Byd iechyd

--------------------------------------------------------------------------------

Nick Bennett

NICK BENNETT

Nick Bennett yw Prif Weithredwr Cartrefi Cymunedol Cymru. Mae’n Aelod o Bwyllgor Ymgynghorol Ofcom dros Gymru.

--------------------------------------------------------------------------------

Owen Evans

OWEN EVANS

Yn wreiddiol o Aberystwyth, Owen Evans yw Cyfarwyddwr Cymru Busnes yn y Gymuned. 
--------------------------------------------------------------------------------

Huw Jones

HUW JONES

Huw Jones oedd Prif Weithredwr S4C rhwng 1994 a 2005. Yn wreiddiol o Gaerdydd ond mae wedi byw a gweithio am nifer o flynyddoedd yng ngogledd-orllewin Cymru cyn cychwyn gyda S4C. 

---------------------------------------------------------------------------------

Gwyneth Morus Jones

GWYNETH MORUS JONES

Mae Gwyneth Morus Jones yn byw yn Llandegfan, Ynys Môn. Mae wedi gwasanaethu fel Llywydd Cenedlaethol Merched y Wawr a Chadeirydd Mudiad Ysgolion Meithrin. 

-------------------------------------------------------------------------------------

Marc Phillips

MARC PHILLIPS

Penodwyd Marc Phillips i'r Bwrdd ym mis Ebrill 2003.

Mae'n gweithio fel Trefnydd Cenedlaethol Plant mewn Angen ar gyfer y BBC yng Nghymru, yn dilyn cyfnod fel Prif Weithredwr yr elusen Tenovus.

Daw'n wreiddiol o Aberpennar a dysgodd y Gymraeg tra'n ddisgybl ysgol ym Merthyr Tudful.

Erbyn hyn, mae’n byw yng Nghaerdydd. 

------------------------------------------------------------------------------------

Catherine Rees

CATHERINE REES

Catherine Rees yw Cyfarwyddwr Adnoddau Menter a Busnes. Yn wreiddiol o Lanelli mae’n parhau i fyw a gweithio yn yr ardal.
--------------------------------------------------------------------------------

 Elin Wyn

ELIN WYN

Yn wreiddiol o Gaerdydd, mae Elin Wyn yn parhau i fyw a gweithio yn y ddinas. Yr oedd yn newyddiadurwraig gyda BBC Cymru ac yn Bennaeth swyddfa’r BBC yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Sefydlodd gwmni hyfforddi i ddarparu hyfforddiant newyddiadurol a chyfryngol yn Gymraeg a Saesneg. 

Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd