Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Yn adran hon:

Rhaid cael Adobe Acrobat Reader er mwyn gweld ffeiliau PDF ar y wefan hon.

Nôl Acrobat Reader
Buddsoddwr Mewn Pobl
Hygyrchedd 

Rydym am i'n gwefan fod mor hygyrch â phosibl ac rydym yn ceisio cydymffurfio fan lleiaf â lefel hygyrchedd A-ddwbl fel a nodwyd gan Fenter Hygyrchedd y We. Mae a wnelo hyn hefyd â gweithredu sawl pwynt gwirio Blaenoriaeth 3 sy'n angenrheidiol er mwyn sicrhau bod y wefan yn cydymffurfio â safon "AAA".

Mae canllawiau'r WAI hefyd yn sail i safonau Sefydliad Brenhinol y Deillion a'i ymgyrch "See it right".

Ein nod yw cydymffurfio â'r Deddf Camwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 o ran darparu gwasanaethau ar-lein, fel y mae'r Comisiwn Hawliau'r Anabledd yn gofyn amdano. Mae'r Ddeddf hon yn nodi'n ddiamwys bod yn rhaid i wefannau'r sector cyhoeddus a phreifat fod yn hygyrch.

Yn ogystal, datblygwyd y wefan hon i ddiwallu anghenion y Fframwaith Ansawdd ar gyfer Dylunio Gwefannau Llywodraeth y D.U. a gyhoeddwyd gan Swyddfa'r E-gennad.

Cofiwch gysylltu â ni os byddwch am roi adborth fel bo modd i ni barhau i wella hygyrchedd y wefan hon.

 

 

Nodweddion Hygyrchedd

  • Ysgrifennir dolenni i fod yn synhwyrol o'u darllen allan o gyd-destun.
  • Mae gan bob delwedd yn y wefan hon ddisgrifiad testun cyfatebol.
  • Defnyddiwyd taflenni arddull rhaeadrol ar gyfer cynllun a chyflwyniad.
  • Lluniwyd pob tudalen fel bo modd ei darllen heb daflenni arddull.
  • Mae'r wefan hon yn defnyddio meintiau ffont perthynol er mwyn galluogi'r defnyddiwr i nodi "maint testun" mewn rhaglenni pori sy'n defnyddio sgrin.
  • Mae pob ffurflen yn defnyddio dilyniant Tab rhesymegol.
  • Mae labeli wedi eu cysylltu â meysydd mewn ffurflenni HTML.
  • Mae map o'r wefan wedi ei gynnwys er mwyn darparu gwybodaeth am gynllun cyffredinol y wefan.
  • Mae llwybrau bysellfwrdd byr wedi eu darparu er mwyn cynorthwyo gwelywio (gweler isod).

 

Llwybrau Bysellfwrdd Byr

Er mwyn gwella hygyrchedd i ddefnyddwyr nad ydynt yn defnyddio llygoden, rydym wedi integreiddio llwybrau bysellfwrdd byr  i'n gwefan. Mae'r rhain yn cynnwys:

S – Sgipio'r Llywio
1 – Hafan
2 – Newyddion
3 – Map o'r wefan
4 – Chwilio
5 – Cwestiynau Cyffredin
 8 – Polisi Preifatrwydd
 9 – Cysylltwch â ni
 0 – Hygyrchedd

Er mwyn defnyddio'r bysellau hygyrchedd hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau isod:

Windows: gwasgwch 'Alt' + 'Bysell Hygyrchedd' ( + 'Return' ar gyfer Internet Explorer).
Apple Mac: gwasgwch 'Control' + 'Bysell Hygyrchedd'.

Yn anffodus, nid yw fersiwn cyfredol Opera yn cefnogi'r nodwedd hon.

 

Cyfeiriadau Hygyrchedd

  • Deddf Camwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995
  • W3C Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe 1.0

 

Rhaglenni Pori

  • Microsoft - Internet Explorer
  • Mozilla - Firefox
  • Apple - Safari

 

Technoleg Ymaddasol

  • JAWS: rhaglen darllen sgrin 
  • Lynx: rhaglen bori testun 

Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd

Datblygwyd gan Draig Technology Cyf. gyda Microsoft Office SharePoint Server 2007.