Seminar Termau, 30 Hydref 2007 yn y Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth
Bydd y seminar hwn yn tynnu ynghyd arbenigwyr sy’n gweithio yn y maes termau – o gyfieithwyr i bobl sydd angen termau safonol i hwyluso defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle. Mae’r Bwrdd yn awyddus i roi llwyfan i'r gwaith o safoni termau, ac i godi ymwybyddiaeth o’r gwahanol brosiectau sydd ar waith.
Yn ystod y seminar bydd modd clywed am rai o’r prosiectau a’r datblygiadau diweddaraf ym myd termau yng Nghymru. Ceir cyflwyniadau gan Thomas Watkin, Prif Gwnsler Deddfwriaethol Cymru; cyfieithwyr Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cynulliad Cymru, staff Canolfan Bedwyr ac aelodau o staff y Bwrdd ac eraill. Bydd y seminar hefyd yn gyfle i drafod rhai o’r ystyriaethau hynny sy’n codi wrth fynd ati i drin a safoni termau. Hefyd bydd modd trafod sut i ddefnyddio’r termau yn fwy ymarferol wrth gyfieithu ac wrth weithio trwy gyfrwng y Gymraeg. Byddwn yn trafod blaenoriaethau y dyfodol ar gyfer gwaith sy’n ganolog i ddefnyddio’r Gymraeg mewn meysydd newydd ac arloesol.