Skip main navigationAccess Key DetailsSearch
 
In this section:

To view the PDFs on this site you will need the Adobe Acrobat Reader.

Get Acrobat Reader
Investors in People
The Welsh Way For Windows And Office 2003. 

01/12/2004 

We apologise that this content is only currently available in Welsh. A translation will be forthcoming.

Brasgamodd yr iaith Gymraeg i faes technoleg gwybodaeth heddiw (Mercher) wrth i Fwrdd yr Iaith Gymraeg a Microsoft ddatgelu eu Pecynnau Rhyngwyneb Cymraeg ar gyfer Windows XP ac Office 2003.

Mae'r cynllun ar y cyd yn golygu o hyn ymlaen, bydd pobl sy'n defnyddio cyfrifiaduron yn gallu dewis cael eu gorsafoedd gwaith yn Gymraeg, a gyda technoleg gwybodaeth yn chwarae rhan mor amlwg yn ein bywydau bob dydd, bydd cael Windows XP ac Office 2003 yn Gymraeg yn sicr o gynyddu'r cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg.

Wrth siarad yn ystod y lansiad dywedodd Meri Huws, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg:

"Heb os mae hwn yn ddatblygiad allweddol i'r Gymraeg ac yn cadarnhau bod yr iaith yn gyfoes, perthnasol a defnyddiol. Mae cael rhaglenni cyfrifiadurol cyfarwydd fel 'Word' ac 'Outlook' yn golygu bydd yna fwy o gyfleoedd i bobl o bob oed i ddefnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd, boed hynny yn y gwaith neu yn y cartref."

Gyda dyfodiad y Pecynnau Rhyngwyneb Cymraeg mae'r Gymraeg yn ymuno gyda ieithoedd cyfrifiadurol eraill megis Hindi, Gwyddeleg a Maori. Mae'r cyfieithiad Cymraeg yn defnyddio geirfa syml, cyffredin gan osgoi termau cymhleth. A gyda'r holl dewisiadau a gweithgareddau fel 'file' a 'save as' yn yr un safleoedd â'r Saesneg bydd hi'n ddigon hawdd arfer gyda Windows ac Office 2003 yn Gymraeg.

Mae'r Pecynnau Rhyngwyneb Cymraeg yn ganlyniad partneriaeth pymtheg mis rhwng y Bwrdd a Microsoft gyda chymorth arbenigol cwmni cyfieithu Cymen a chwmni technoleg Draig, ynghyd â Chanolfan Bedwyr, Prifysgol Cymru, Bangor.

mwy/

Dywedodd Terry Smith, Uwch Gyfarwyddwr Sector Gyhoeddus Microsoft UK:

"Mae'r Pecynnau Rhyngwyneb Cymraeg hyn yn newyddion ardderchog i holl ddefnyddwyr cyfrifiaduron ac yn tanlinellu ymrwymiad Microsoft i wneud meddalwedd yn hygyrch i bawb. Wrth i dechnoleg gwybodaeth gynyddu dros y byd mae'n holl bwysig bod defnyddwyr cyfrifiaduron yn gallu blasu technoleg newydd a hynny yn eu iaith eu hunan.

Mae'r meddalwedd ar gael i'w llwytho yn rhad ac am ddim o wefannau Bwrdd yr Iaith Gymraeg a Microsoft ac ar gryno-ddisgiau o Fwrdd yr Iaith Gymraeg

Wrth groesawu'r meddalwedd dywedodd y Gweinidog dros Ddiwylliant, yr Iaith Gymraeg a Chwaraeon, Alun Pugh,

“Mae lansio Windows yn Gymraeg yn garreg filltir bwysig yn hanes yr iaith ac yn rhan o weledigaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru o Gymru ddwyieithog. Mewn byd gynyddol eang mae'n galonogol fod cwmnïau mawr yn gweld pwysigrwydd hyrwyddo ieithoedd a diwylliannau amrywiol. Llongyfarchiadau mawr i Fwrdd yr Iaith Gymraeg a Microsoft ar eu gwaith caled i ddod a'r Gymraeg i'n cyfrifiaduron."

DIWEDD

Nodiadau Golygyddol

Mae'r pecynnau Rhyngwyneb Cymraeg ar gael o:

Wedi ei sefydlu ym 1975, Microsoft (Nasdaq "MSFT") yw'r arweinwyr byd-eang mewn meddalwedd, gwasanaethau ac atebion sy'n helpu pobol a busnesau i gyflawni eu holl potensial.

Partneriaid Microsoft yn y lansiad yma yw: Cymen, Draig, Siemens, Cap Gemini,Distinction, Computacentre a Pugh

Am wybodaeth pellach

Meleri Evans 07977 219395 Swyddog y Wasg, Bwrdd yr Iaith Gymraeg

Olly Scott 020 7344 1276 Edelman Llundain i Microsoft


« Back

Copyright © The Welsh Language Board | Privacy Policy | Accessibility