Skip main navigationAccess Key DetailsSearch
 
In this section:

To view the PDFs on this site you will need the Adobe Acrobat Reader.

Get Acrobat Reader
Investors in People
Tecstio launch lets your fingers take five 

29/05/2007 

We apologise that this content is only currently available in Welsh. A translation will be forthcoming.

Glyn Wise a Steffan Jones yn tecstio

Bodiau’n brifo? Mae Tecstio a’r Gymraeg newydd glosio, diolch i raglen Tecstio newydd sydd ar gael i’w llwytho i’ch ffôn yn rhad ac am ddim.

Bydd Tecstio, sy’n cael ei lansio ar ddydd Iau 31 Mai, yn arbed llwyth o amser ac ymdrech i unrhyw un sy’n Tecstio yn Gymraeg. Lansiad drwy weithdy Tecstio fydd yn digwydd heddiw ar Hysbys - y bws mawr oren - ar faes Eisteddfod yr Urdd, am 2 o’r gloch prynhawn dydd Iau.

Sesiwn ‘picio i mewn’ fydd y gweithdy i unrhyw un sydd am wybod rhagor am y meddalwedd a sut mae ei ddefnyddio – mae croeso i bawb alw draw i gael gwybod rhagor.

Eich meddalwedd chi yw Tecstio – mae modd i chi roi gwedd bersonol iddo. Mae’r geiriadur yn esblygu’n gyson. Mae’n hawdd ychwanegu’ch geiriau eich hun wrth ddefnyddio’r meddalwedd, gweld y geiriau hynny a dewis geiriau i gael eu cynnwys yn y fersiwn nesaf.

Steffan Jones greodd y meddalwedd fel rhan o brosiect a gomisiynwyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg. Bydd Steffan yn y gweithdy er mwyn dangos i bawb sut i fanteisio i’r eithaf at Tecstio.

Meddai Steffan, “Mae modd rhedeg y meddalwedd ar gannodd o ffonau gwahanol ac rwy’n meddwl y bydd pobl yn ei chael o gymorth mawr – fydd y bodiau ddim yn brifo rhagor wrth decstio. Mae’r meddalwedd yn gallu gorffen geiriau ar eich rhan, ond heb fod yn boen!”

Lansiwyd cyfnod treialu cyhoeddus i’r meddalwedd yr haf diwethaf a diolch i’r ymatebion gwerthfawr a gafwyd o’r treial mae’r meddalwedd sydd yn cael ei lansio heddiw bellach yn cynnig llawer mwy – llawer mwy o eiriau yn y lle cyntaf.

Ategodd Steffan, “Ryn ni wedi dyfeisio ffordd o ffitio miloedd ar filoedd yn fwy o eiriau Cymraeg ar eich ffôn. Newidiwch iaith o fewn yr un neges – Cymraeg, Saesneg neu ba iaith bynnag mae’ch ffôn yn ei hadnabod. Mae modd newid mor aml ag y byddwch am wneud, ar ganol tecstio rhywun.”

Mae Tecstio yn addas i Gogs a Hwntws gan fod y feddalwedd yn caniatáu i chi anfon geiriau yn ôl at y bobl sy’n creu’r feddalwedd, felly allwch chi ychwanegu geiriau newydd gall pawb eu defnyddio, all wrth gwrs gynnwys geiriau o dafodiaith y De a’r Gogledd.

Yn ogystal â’r datblygiadau hyn, mae Cymraeg Ymhobman, fersiwn arbennig o arbennig i ffonau Nokia S60 (1st & 2nd edition) hefyd ar gael. Mae’r rhaglen hon yn caniatáu i chi ddarogan testun yn unrhyw le ar eich ffôn – p’un a ydych yn ysgrifennu e-bost, pori’r we, ychwanegu apwyntiad calendr neu beth bynnag y gallwch feddwl amdano.

Meddai Steffan, “Dechreuais i freuddwydio am Tecstio ychydig cyn gorffen fy ngradd, wedi i mi straffaglian am y canfed tro i deipio “sut wyt ti” ar fy ffôn. Felly ro’n i’n meddwl y gallai fod yn haws ysgrifennu meddalwedd i wneud y peth drosto i yn lle! Doedd y peth ddim cweit mor hawdd â hynny, ond rwy’n gobeithio eich bod yn hoffi canlyniad fy ngwaith!”.

Er mwyn llwytho’r meddalwedd i lawr, ewch i www.tecstio.com ar eich cyfrifiadur, a dilyn y cyfarwyddiadau fanno. Neu, os nad oes angen cyfarwyddiadau arnoch, ewch at wap.tecstio.com o borwr eich ffôn. Bydd ffioedd trosglwyddo data arferol eich cwmni ffôn yn cael eu codi.

DIWEDD

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Luned Jones, Swyddog y Wasg, Bwrdd yr Iaith Gymraeg
029 2087 8018
07977 219395
post@byig-wlb.org.uk


« Back

Copyright © The Welsh Language Board | Privacy Policy | Accessibility