Skip main navigationAccess Key DetailsSearch
 
In this section:

To view the PDFs on this site you will need the Adobe Acrobat Reader.

Get Acrobat Reader
Investors in People
Microsoft and the Board take Welsh even further into the digital age 

17/12/2007 

We apologise that this content is only currently available in Welsh. A translation will be forthcoming.

Nawr mae modd i siaradwyr Cymraeg ddefnyddio Windows Vista ac Office 2007 yn Gymraeg diolch i bartneriaeth rhwng Microsoft a Bwrdd yr Iaith Gymraeg.

17 Rhagfyr 2007 – mae Pecynnau Rhyngwyneb Iaith Cymraeg (LIPs) ar gyfer Windows Vista ac Office 2007 bellach ar gael i’w llwytho i lawr o ganlyniad i’r bartneriaeth rhwng Microsoft a Bwrdd yr Iaith Gymraeg, a fydd yn sicrhau profiad cyfrifiadurol dwyieithog i siaradwyr Cymraeg.  Roedd y prosiect yn cynnwys cyfieithu 600,000 o eiriau i’r Gymraeg.

Mae’r Pecynnau Rhyngwyneb Cymraeg ar gyfer Vista ac Office 2007 yn garreg filltir bwysig o ran prif-ffrydio’r Gymraeg ymhellach i bob agwedd ar fywyd bob dydd – yn y cartref, ym myd busnes ac addysg, a bydd yn annog siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio rhagor ar y Gymraeg.  Mae cyflwyno’r Pecynnau Rhyngwyneb Cymraeg i Vista ac Office 2007 hefyd yn adlewyrchu ymrwymiad Microsoft a Bwrdd yr Iaith Gymraeg i roi rhagor o ddewis o offer cyfrifiadurol i siaradwyr Cymraeg.

Dywedodd Meri Huws, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg:

 Gyda mwy nag un ymhob pump o boblogaeth Cymru bellach yn siarad Cymraeg, rydym yn credu bod hon yn adeg dyngedfennol o ran hybu’r Gymraeg, a’i datblygu.  Rydym wrth ein bodd o fod wedi gweithio gyda Microsoft er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd, yn arbennig ar adeg pan fydd technoleg yn treiddio mor ddwfn i’n bywydau – ac ni ddylai technoleg eithrio unrhyw un”

Bydd Pecynnau Iaith Cymraeg Vista ac Office 2007 ar gael i’w llwytho i lawr yn rhad ac am ddim o Ganolfan Llwytho i Lawr Microsoft ac o www.bwrdd-yr-iaith.org.uk/technoleg.

Dywedodd Steve Beswick, Cyfarwyddwr Addysg Microsoft:

“Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda Bwrdd yr Iaith Gymraeg er mwyn cyfuno’r dechnoleg fodern o fewn Vista ac Office gyda diwylliant brwd ac etifeddiaeth y Gymraeg. Ein gobaith yw y bydd y fenter hon yn annog y bobl sydd eisoes wrthi’n dysgu’r Gymraeg a hefyd y bydd yn creu profiad cyfrifiadurol gwell i’r rheini sydd yn siarad yr iaith yn barod.”

Dywedodd Rhodri Glyn Thomas, Gweinidog Llywodraeth Cynulliad Cymru dros Dreftadaeth:

“Wrth i ni symud i economi sy’n fwyfwy seiliedig ar wybodaeth, mae’n bwysig ein bod yn hwyluso mynediad i’r dechnoleg ddiweddaraf i siaradwyr Cymraeg.  Ein gobaith yw y bydd y fenter hon nid yn unig yn gymorth i annog rhagor o siaradwyr Cymraeg, ond bydd hefyd yn galluogi mwy o bobl i ddatblygu sgiliau newydd a fydd yn gymorth i gyfrannu at greu economi Gymreig lwyddiannus”

Mae lansio’r Pecynnau Iaith Cymraeg i Vista ac Office 2007 yn adeiladu ar y berthynas strategol hirdymor rhwng Bwrdd yr Iaith Gymraeg a Microsoft, a welodd lansio, yn 2004, Becynnau Rhyngwyneb Cymraeg yn rhad ac am ddim i Office 2003 a Windows XP.

Mae'r gwirydd sillafu Cymraeg, a gynhyrchwyd gan Uned Technolegau Iaith Prifysgol Bangor, wedi ei adolygu a'i ddiweddaru'n sylweddol 'a'i gynnwys yn y Pecyn Iaith'. Mae'n cynnwys geiriadur helaethach ag ynddo fwy o lawer o enwau gwledydd, ieithoedd, afonydd, cwmnïau, talfyriadau ac acronymau. Bellach, mae mwy na 120,000 o eiriau Cymraeg yn eu ffurfiau cysefin. O dreiglo a rhedeg rhain oll, cawn gyfanswm o fwy na miliwn o ffurfiau geiriol Cymraeg.

Diwedd

Nodiadau i olygyddion

·         Fel rhan o’r bartneriaeth a gyhoeddir heddiw, lluniwyd dau becyn iaith (LIP) Cymraeg a fydd ar gael yn rhad ac am ddim: y naill ar gyfer Office 2007, a’r llall ar gyfer Windows Vista.

·         Mae’r LIP ar gyfer Office 2007 yn cyfieithu rhyngwyneb defnyddwyr y rhaglenni canlynol: Microsoft Word 2007, Microsoft Excel 2007, Microsoft Outlook 2007, Microsoft PowerPoint 2007.

·         Mae’r LIPs rhad ac am ddim yn gweithio ar bob fersiwn o Office 2007 a Windows Vista.

·         Mae modd newid y LIPs yn ôl ac ymlaen rhwng y Gymraeg a’r Saesneg ymhob cyfuniad, a gellir cysylltu gwahanol ieithoedd â gwahanol broffiliau ar yr un cyfrifiadur, gan lwyr alluogi’r gweithle dwyieithog a chan alluogi gwahanol aelodau o’r un teulu gyda gwahanol alluoedd ieithyddol i ddefnyddio’r un cyfrifiadur. Mae 80% o blant Cymraeg 3-15 oed yn byw mewn cartrefi lle nad yw pawb yn siarad Cymraeg. Mae’r pecynnau iaith hyn yn galluogi pawb i gael profiad cyfrifiadurol Cymraeg adref.

·         Bydd modd gosod y LIPs ar bob fersiwn o Windows Vista ac mae modd newid rhwng y LIP a’r iaith sylfaen ar bob fersiwn.

·         Mae modd gosod LIPs Office 2003 ac Office 2007 ar dechnoleg Microsoft Server 2003. Bydd hyn yn cynorthwyo i greu rhagor o weithleoedd dwyieithog, gan alluogi gweithwyr a chanddynt sgiliau iaith gwahanol yn yr un swyddfa i gael dewis iaith unigol, wrth rannu’r un peiriannau.

·         Mae’r holl waith a wneir fel rhan o’r prosiect hwn wedi ei ariannu’n llwyr gan Microsoft.

·         Mae’r gwaith cyfieithu wedi ei wneud gan gwmni cyfieithu Cymen o Gaernarfon ac wedi ei brosiect reoli a’i sicrhau am ansawdd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg.

·         Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Swyddfa’r Wasg Microsoft 0870 20 77 377, Swyddfa’r Wasg, Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar +44 29 2087 8000, post@bwrdd-yr-iaith.org.uk. Gweler www.bwrdd-yr-iaith.org.uk/technoleg am ragor o wybodaeth.

Ynglŷn â Microsoft

Wedi ei sefydlu ym 1975, Microsoft (Nasdaq "MSFT") yw'r arweinwyr byd-eang mewn meddalwedd, gwasanaethau ac atebion sy'n helpu pobol a busnesau i gyflawni eu holl potensial. Am ragor o wybodaeth am Microsoft ac addysg, ymwelwch â www.microsoft.com/uk/education.

Ynglŷn â Bwrdd yr Iaith Gymraeg

Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn gorff statudol a noddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Fe’i sefydlwyd yn Rhagfyr 1993, o dan delerau Deddf yr Iaith Gymraeg. Ei brif swyddogaeth yw hybu a hwyluso defnyddio’r iaith Gymraeg. 

"Prif nod y Bwrdd yw ei gwneud hi'n haws i bawb ddefnyddio Cymraeg ymhob agwedd ar fywyd." 

Penodir aelodau gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ac mae ganddo staff o dros saith deg. O dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, daeth y Bwrdd yn atebol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ar ôl bod yn atebol i a chael ei ariannu gan y Swyddfa Gymreig yn y gorffennol.

Yn syml, prif nod y Bwrdd yw ei gwneud hi’n haws i bawb ddefnyddio Cymraeg ymhob agwedd ar fywyd, i fagu hyder pobl yn eu gallu i ddefnyddio’r iaith, i annog mwy o bobl i siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg mewn sefyllfaoedd newydd, ac i drosglwyddo’r iaith i’w plant.

‘Rydym hefyd yn anelu at weithio mewn partneriaeth â chyrff sector cyhoeddus, busnesau preifat a mudiadau gwirfoddol, gan gynnig cyngor ac adnoddau i helpu darparwyr gwasanaethau i roi dewis iaith i’w cwsmeriaid yn naturiol.


« Back

Copyright © The Welsh Language Board | Privacy Policy | Accessibility