MOU signals continued partnership between Microsoft and Welsh Language Board

Bydd Pecynnau Rhyngwyneb Iaith i Windows Vista ac Office 2007 ar gael i’w llwytho i lawr yn rhad ac am ddim ymhen ond chwe mis yn sgil adnewyddu’r bartneriaeth hir sefydledig rhwng Microsoft a Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
Mae’r bartneriaeth barhaus wedi’i chydnabod yn ffurfiol drwy Femorandwm cyd-ddealltwriaeth sy’n adeiladu ar berthynas gwaith hanesyddol rhwng y ddau barti a welodd lansio pecynnau rhyngwyneb iaith i Office 2003 a Windows XP 3 blynedd yn ôl.
Mae buddsoddiad Microsoft i ddatblygu meddalwedd yn Gymraeg yn mynd law yn llaw ag ymdrechion y Bwrdd i brif-ffrydio’r Gymraeg fel rhan o fywyd pob dydd – gan sicrhau ei bod yn fwyfwy perthnasol i bobl yng Nghymru yn y 21ain Ganrif.
Meddai Stuart Aston, Rheolwr Rhaglenni Llywodraethol ym Microsoft “Mae Microsoft wedi ymrwymo i sicrhau bod ein meddalwedd ar gael i bawb, mewn nifer gynyddol o wahanol ieithoedd. Mae’n partneriaeth â Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn caniatáu i bobl weithio’n haws yn eu dewis iaith, p’un a ydynt yn y cartref, ym myd busnes neu yn y system addysg.”
Dywedodd Meirion Prys Jones, Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg, “Rydym yn arbennig o falch i fod yn gweithio mewn partneriaeth â Microsoft o’r newydd, a hynny er mwyn datblygu offeryn i siaradwyr Cymraeg ei ddefnyddio yn eu bywydau bob dydd. Mae’n profi bod y Gymraeg, fel technoleg gwybodaeth, ym treiddio i bob agwedd ar fywyd cyfoes yng Nghymru.”
Mae pwysigrwydd y Gymraeg yn parhau i dyfu ym myd technoleg. Gellir gweld hyn gan y miloedd lawer o bobl sydd wedi llwytho pecynnau Office 2003 a Windows XP. Mae ymrwymiad Microsoft a Bwrdd yr Iaith Gymraeg i barhau i ddatblygu’r offer technolegol hyn yn rhoi dewis i bobl Cymru sut maent yn cyrchu’r dechnoleg.
Gwnaed y gwaith cyfieithu ar gyfer pecynnau Rhyngwyneb Iaith Microsoft Office 2003 a Windows XP gan gwmni cyfieithu Cymen, cwmni cyfieithu mawr ei barch ac arloesol ei ddefnydd o dechnoleg gwybodaeth sydd wedi ei leoli yng Ngogledd Cymru. Mae hyn wedi arwain at becyn meddalwedd sy’n hawdd ei ddeall ac sy’n gyfeillgar i’r defnyddiwr.
Diwedd
Nodiadau i olygyddion
Mae’r prosiect hwn yn adeiladu ar y bartneriaeth flaenorol rhwng Bwrdd yr Iaith Gymraeg a Microsoft a lansiwyd yn 2003 i greu Pecynnau Rhyngwyneb Cymraeg (LIPs) i Office 2003 a Windows XP
O fewn y bartneriaeth a gyhoeddir heddiw, cynhyrchir dau LIP Cymraeg yn rhad ac am ddim: y naill i Office 2007, y llall ar gyfer Windows Vista.
Bydd y LIP rhad ac am ddim i Office 2007 yn cyfieithu rhyngwyneb y defnyddiwr i’r rhaglenni canlynol: Microsoft Word 2007, Microsoft Excel 2007, Microsoft Outlook 2007, Microsoft PowerPoint 2007.
Bydd y LIPs rhad ac am ddim yn gweithio ar bob fersiwn o Office 2007.
Bydd modd newid y LIPs yn ôl ac ymlaen rhwng y Gymraeg a’r Saesneg ymhob cyfuniad, a gellir cysylltu gwahanol ieithoedd gyda gwahanol broffiliau defnyddiwr ar yr un cyfrifiadur, gan lwyr alluogi’r gweithle dwyieithog, a chan alluogi gwahanol aelodau’r un teulu gyda gwahanol allu ieithyddol i rannu’r un cyfrifiadur. Mae 80% o siaradwyr Cymraeg 3-15 oed yn byw mewn cartrefi lle nad yw pawb yn siarad Cymraeg. Bydd hyn yn galluogi iddynt gael profiad cyfrifiadurol Cymraeg yn y cartref.
Bydd modd gosod y LIPs ar bob ‘blas’ o Windows Vista ac mae modd newid iaith rhwng y LIP a’r iaith sylfaen ar bob fersiwn
Bydd modd gosod LIPs Office 2003 ac Office 2007 ar dechnoleg Microsoft Server 2003. Bydd hyn yn cynorthwyo i greu rhagor o weithleoedd dwyieithog, gan alluogi gweithwyr gyda gwahanol sgiliau iaith yn yr un swyddfa i gael dewis iaith unigol wrth rannu’r un peiriannau.
Mae’r holl waith a wneir o dan y prosiect hwn wedi’i ariannu’n llawn gan Microsoft
Mae’r gwaith cyfieithu wedi’i wneud gan gwmni cyfieithu Cymen o Gaernarfon ac wedi’i brosiect reoli a’i sicrhau am ansawdd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg
Am fanylion pellach cysylltwch â Luned Jones, Swyddog y Wasg, Bwrdd yr Iaith Gymraeg – 02920 878018 neu 07977 219395 neu post@byig-wlb.org.uk