Skip main navigationAccess Key DetailsSearch
 
In this section:

To view the PDFs on this site you will need the Adobe Acrobat Reader.

Get Acrobat Reader
Investors in People
Coming to terms with IT in Welsh 

10/07/2005 

We apologise that this content is only currently available in Welsh. A translation will be forthcoming.

Defnyddio cyfrifiadur? Defnyddio’r Gymraeg?
Bydd hi’n llawer haws defnyddio’r ddau o hyn allan diolch i gronfa o dermau safonol Technoleg Gwybodaeth sydd newydd gael ei lansio gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg.

Bydd termau Technoleg Gwybodaeth safonol ar gael yn Gymraeg o wefan Bwrdd yr Iaith Gymraeg o hyn allan.

Cyhoeddir y termau mewn cronfa ddata ddwyieithog ar-lein, a bydd modd eu llwytho i lawr i mewn i systemau cyfrifiadurol eraill. Y gobaith yw y bydd y system yn hwyluso gwaith cyfieithwyr a phobl sy'n defnyddio'r termau hyn yn gyson fel athrawon a disgyblion ysgol.

Croesawodd Meri Huws, Cadeirydd y Bwrdd y datblygiad: "Mae'n bwysig bod termau safonol ar gael i'w defnyddio ym maes Technoleg Gwybodaeth fel hyn. Mae'r system yn hawdd i'w defnyddio ac yn rhad ac am ddim. Mae hefyd yn ffordd arall o sicrhau bod mwy o gyfle i ddefnyddio'r Gymraeg mewn sefyllfaoedd bob dydd."

Ar hyn o bryd, mae'r gronfa'n cynnwys termau a ddefnyddir i leoleiddio Microsoft Office 2003, Windows XP ac OpenOffice i'r Gymraeg. Bydd y gronfa'n cael ei hehangu i gynnwys termau wedi eu safoni mewn llawer o feysydd eraill dros y misoedd nesaf.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Lowri Williams ym Mwrdd yr Iaith Gymraeg ar 029 2087 800 neu post@byig-wlb.org.uk

Nodiadau i olygyddion

  1. Er mwyn defnyddio'r gronfa o dermau Technoleg Gwybodaeth Cymraeg ac er mwyn cael rhagor o wybodaeth am bob agwedd ar waith y Bwrdd, gan gynnwys ei Strategaeth Technoleg Gwybodaeth, ewch i wefan y Bwrdd.
  2. Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn gorff statudol a ariennir gan arian cyhoeddus. Fe'i sefydlwyd yn Rhagfyr 1993, o dan delerau Deddf yr Iaith Gymraeg. Ei brif swyddogaeth yw hyrwyddo a hwyluso defnyddio'r iaith Gymraeg.
  3. Cyhoeddwyd Strategaeth Technoleg Gwybodaeth ddrafft at ymgynghori cyhoeddus ddiwedd 2004. Daeth y cyfnod ymgynghorol i ben ddiwedd Ebrill 2005. Byddwn yn mynd ati nawr i i'w hail-lunio yn sgil sylwadau a dderbyniwyd gan y cyhoedd.
  4. Mae'r gronfa yn galluogi defnyddwyr i chwilio o'r Gymraeg i'r Saesneg ac fel arall. Mae'r cyfleuster i fewnforio termau o gymorth i gyfieithwyr sy'n defnyddio systemau cof cyfieithu a rheoli terminoleg.
  5. Lluniwyd y Gronfa Ddata yn sgil tendr cystadleuol a enillwyd gan Ganolfan Bedwyr, Prifysgol Cymru, Bangor.

« Back

Copyright © The Welsh Language Board | Privacy Policy | Accessibility

Developed by Draig Technology Ltd. using Microsoft Office SharePoint Server 2007.