Skip main navigationAccess Key DetailsSearch
 
In this section:

To view the PDFs on this site you will need the Adobe Acrobat Reader.

Get Acrobat Reader
Investors in People
Will my child's attitudes affect the learning of a second language? 

We apologise that this content is only currently available in Welsh. A translation will be forthcoming.

Gall rhiant ddarparu amgylchedd ieithyddol ysgogol, ond nid yw hynny'n ddigon. Gall rhiant fynd â phlentyn ar lawer o wibdeithiau, a darparu digonedd o adnoddau a deunyddiau yn y cartref ar gyfer ymarfer ac amrywiaeth ieithyddol. Gall rhiant sicrhau bod plentyn yn cwrdd ag eraill sy'n siarad iaith leiafrifol. Mae hyn i gyd yn werthfawr a bydd yn rhoi cyfle da i'r plentyn ddod yn ddwyieithog. Ond os nad yw agwedd plant a'u symbyliad a'u diddordeb yn eu hieithoedd yn cael eu hysbrydoli, gall y rhiant ddarganfod nad yw ei obeithion am ddatblygiad dwyieithog yn cael eu gwireddu.

Ystyriwch y cwestiwn hwn gyda chyfatebiaeth. Mae rhai rhieni yn prynu llawer o lyfrau i'w plant. Mae'r fath rieni yn aml yn credu bod darparu casgliad mawr o lyfrau yn golygu y bydd eu plant yn datblygu llythrennedd. Er bod creu'r amgylchedd materol iawn ar gyfer darllen yn bwysig, mae'n amlwg nad yw'n ddigon. Mae angen annog plant i ddarllen. Mae carfan arall o rieni yn tueddu i feddwl am ddarllen (a'i addysgu) fel sgil. Yn ddefodol bob nos mae hanner awr o ymarfer er mwyn i'r plentyn ddysgu darllen. Mae hynny'n ardderchog, ond nid yw'n ddigon. Gall y rhieni ddarganfod, pan fo'u plant yn ddigon hen i ddarllen ar eu pen eu hunain, nad oes ganddynt ddim diddordeb mewn llyfrau. Mae darllen wedi cael ei ddysgu fel sgil ac nid fel gweithgaredd pleserus sy'n werthfawr ynddo'i hun. Mae annog agwedd gadarnhaol at ddarllen, gwneud llyfrau yn brofiad pleserus i blant, a'u hannog wrth iddynt ddysgu darllen yn bwysig i ddatblygu arferion darllen yn y tymor hir.

Mae'r un peth yn wir gyda datblygiad ieithyddol dwyieithog. Mae darparu amgylchedd ysgogol ac amrywiol fel bod geirfa a strwythurau ieithyddol yn datblygu a sicrhau bod sgiliau iaith plentyn yn datblygu'n dda yn bwysig. Nid yw'n ddigon. Mae hefyd yn bwysig i'r plentyn fod â hunan-gysyniad cadarnhaol ynghylch ei ddwy iaith. Dim ond un ffynhonnell anogaeth ieithyddol yw ei rieni i'r plentyn. Er enghraifft, bydd y statws sydd gan iaith leiafrifol yn y gymdeithas yn llygaid y plentyn yn effeithio ar hunan-gysyniad ieithyddol y plentyn. I rywun gwrthryfelgar yn ei arddegau, bydd cymeradwyaeth ei rieni yn gallu cael effaith gwbl groes i'r hyn a fwriadwyd ganddynt. Cyn ac yn ystod blynyddoedd hollbwysig yr arddegau, gall rhieni drefnu amgylchedd ieithyddol priodol i'r plentyn. Mae enghreifftiau o drefnu ieithyddol gan y rhieni yn cynnwys: dewis addysg uwchradd yn ddoeth, mynd â phlant i ddigwyddiadau pleserus lle mae'r iaith leiafrifol yn cael ei defnyddio a gwahodd cyfeillion sy'n siarad yr iaith leiafrifol i'r tŷ.


« Back

Copyright © The Welsh Language Board | Privacy Policy | Accessibility