Mae hyfforddiant sensitifrwydd iaith yn dilyn hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith gan ei fod yn anelu at gymhwyso'r ymwybyddiaeth o faterion ieithyddol i sefyllfa ymarferol berthnasol i'r unigolyn. Mae hyfforddiant sensitifrwydd iaith yn trin defnydd iaith fel ymddygiad ac yn canolbwyntio ar y berthynas rhwng y gweithiwr a'r defnyddiwr. Mae perthynas agos rhwng hyfforddiant sensitifrwydd iaith a hyfforddiant gofal am gwsmeriaid. Yn wir, mae perthynas uniongyrchol rhwng sensitifrwydd iaith gweithwyr ac ansawdd y gwasanaeth a ddarperir ganddynt.
Gall hyfforddiant sensitifrwydd iaith gynnwys:
1) Iaith fel ymddygiad.
2) Anghenion ieithyddol defnyddwyr.
3) Negeseuon cudd ac amlwg
4) Derbyn a throsglwyddo neges
5) Addasrwydd geiriau, ymadroddion, goslef, ystumiau ayb.