

Dyma gyfeiriadur o raglenni difyr a defnyddiol sydd ar gael yn Gymraeg ar gyfer eich cyfrifiadur. Mae'r dudalen yma'n cyfeirio at yr hanfodol - mae yna lwyth o rai eraill i'w gweld wrth glicio ar fotwm rhaglenni ar y chwith
Dyma'r rhaglenni sy’n addas ar gyfer y tasgau mwyaf cyffredin ac mae pob un ar gael ar gyfer Windows Vista, Windows XP, yr Apple Mac a Linux.
Mae'r rhaglenni yn addas ar gyfer y swyddfa, yr ysgol a'r cartref.
* Ysgrifennu llythyr neu adroddiad?
Mae OpenOffice.org yn cynnig dewis helaeth o raglenni swyddfa sy'n cystadlu gyda'r goreuon..
* Crwydro’r we?
Mae Firefox yn boblogaidd, cyflym a diogel.
* Derbyn ac anfon e-byst?
Mae Thunderbird yn rheoli spam ac yn cynnwys gwirydd sillafu Cymraeg.
* System gyfan?
Mae Microsoft yn darparu Windows Vista ac XP yn Gymraeg ac mae systemau Linux megis Mandriva ac Ubuntu ar gael. Ychydig o ddarpariaeth sydd gan yr Apple Mac, yn anffodus.
*Blogio?
Mae modd creu eich blog eich hun drwy Nireblog. Mae nifer o flogiau Cymraeg yno yn barod. Os ydych am greu gwefan neu wefan blogio defnyddiwch WordPress, mae cyfieithiad Cymraeg o'r rhyngwyneb ar gael yma.
Crynhoi newyddion ac erthyglau?
Mae Netvibes yn ddarparwr newyddion a gwybodaeth drwy lif (RSS) ac mae modd darparu eich deuunydd eich hun a'i rannu gyda'ch ffrindiau.
newyddion
Byddwn yn ceisio cynnig newyddion am raglenni newydd a'r fersiynnau diweddaraf o'n hoff raglenni, felly cofiwch ddod nôl yn rheolaidd. Cliciwch ar y gair newyddion ar y brig ar y dde i ddarllen mwyy. Os oes rhywbeth yn dal eich sylw, cysylltwch â ni.
lle mae dechrau?
Gosod y tair rhaglen yma:
* Firefox - er mwyn crwydro’r we
* OpenOffice.org neu NeoOffice ar gyfer y Mac - casgliad o offer swyddfa ar gyfer ysgrifennu llythyron ac adroddiadau yn cynnwys gwirydd sillafu Cymraeg. Mae OpenOffice.org Dwyieithog ac OpenOffice.org Agored ar gael hefyd
* Thunderbird - man diogel i drin eich e-byst, gyda gwirydd sillafu Cymraeg
Enghraifft yn Windows a'r Mac:
1. Cliciwch ar enw Firefox i fynd i dudalen y rhaglen a dilyn y cysylltiad yn ei flaen
2. Crëwch ffolder ar gyfer Ffeiliau o’r We ar eich bwrdd gwaith
3. Llwythwch y rhaglen i lawr i’r ffolder hwnnw
4. Cliciwch ar y ffeil weithredu -.exe ar gyfer Windows neu .dmg ar gyfer y Mac a dilyn y cyfarwyddiadau
Pethau ychwanegol yn Windows:
* Microsoft Vista ac XP - mae’r pecyn iaith ar gyfer defnyddwyr Vista ac XP ar gael er mwyn troi eich system Windows yn Gymraeg. Rhaid gosod pecyn SP2 yn gyntaf ar gyfer XP.
* Microsoft Office - mae pecyn iaith ar gyfer Office 2003 a 2007 hefyd yn cynnwys gwirydd sillafu sy’n gweithio’n effeithiol iawn. Mae gwirydd ar gael ar gyfer Office XP hefyd
* Canolfan Rheoli Iaith - ffordd o newid rhyngwyneb Windows Vista ac XP yn hawdd nôl ag ymlaen rhwng y Gymraeg a'r Saesneg. Delfrydol ar gyfer sefyllfaoedd dwyieithog
* Cysgliad - mae’n cynnig gwirydd sillafu a gramadeg, geiriaduron a thesawrws. Rhaid talu am y fersiwn Windows ond mae’n gweithio’n effeithiol o fewn OpenOffice.org a Microsoft Office a drwy drefniant y 'bysell boeth' gyda nifer fawr o raglenni eraill. Mae fersiwn Mac ar gael hefyd.
* To-bach - rhaglen gosod acenion cyffredin Cymraeg, gan gynnwys to bach ar yr w a'r y
hefyd, beth am ddarllen ...
* Cyflwyniad PowerPoint ar Gymreigio'ch Cyfrifiadur (Windows) gan Fwrdd yr Iaith
beth am rywbeth hollol wahanol?
Beth am drio Linux?
Mae'r dosbarthiadau isod yn cael eu dosbarthu ar ffurf CD byw fel bod modd i chi eu treialu. Y ffordd hawsaf i gael gafael arnynt yw oddi ar ddisgiau cylchgronau cyfrifiadurol.
* Mandriva Linux
Dyma'r dosbarthiad sy'n cynnwys y mwyaf o Gymraeg, y rhyngwyneb cynhenid, rhyngwyneb Gnome, nifer o raglenni KDE ac OpenOffice.org yn Gymraeg.
* Ubuntu
Un o’r systemau Linux mwyaf poblogaidd ar hyn o bryd.
Gosodwr a rhyngwyneb bwrdd gwaith Gnome yn Gymraeg. Mae’n cynnwys y prif raglenni - Firefox ac OpenOffice.org (yn Saesneg) ar y CD byw. Bydd modd gosod OpenOffice.org Cymraeg wrth osod y system ar eich cyfrifiadur.
* Fedora
Mae cyfran reit sylweddol o Fedora ar gael yn Gymraeg, eto defnyddiwch ryngwyneb Gnome.
Hydref 2008
Medi 2008
WordPress 2.6
Mehefin 2008
Newydd!
Firefox 3
OpenOffice.org 3.0
Beta
Mai 2008
Wetwork
Ebrill 2008
Mandriva 2008.1
Abiword 2.6
Mawrth 2008
OpenOffice.org 2.4
Cysgliad i'r Mac
Cysgliad Windows
Cysgliad a Google Maps
Wordpress 2.2.3
Rhagfyr 2007
Rhyngwyneb Cymraeg Vista ac Office 2007
Hydref 2007
OpenOffice 2.3
Medi 2007
Limewire
Mandriva
Ubuntu
Awst 2007
Meddal yn yr Eisteddfod !
Posteri Meddal
Netvibe
Gorffennaf 2007
Geiryn
WordPress 2.2.1
Joomla
Moodle
Mehefin 2007
Thunderbird 2.0
Dasher
OpenOffice.org 2.2.1
Ebrill 2007
Blog Ubuntu Cymraeg
Nireblog
Opera 9.20
Ubuntu 7.04
Mandriva Linux 2007 Spring
OpenOffice.org 2.2
Mawrth 2007
Monitor Cymru
NeoOffice 2.1
Arolwg ar Hybu Technoleg Cymraeg
Doh!
Windows Vista
Y diweddaraf!
Chwefror 2007
Firefox 2.0
Abiword
PBwiki
Media Player 11 ac Internet Explorer 7 Rhybudd!
Ionawr 2007
Abiword 2.50
Edgair
Readspeaker
Rhagfyr 2006
OpenOffice.2.1
Opera 9.10