Technolegau Iaith
Cysgliad
Mae pecyn Cysgliad yn cynnwys detholiad defnyddiol o feddalwedd sy'n eich cynorthwyo i ddefnyddio'r Gymraeg yn y swyddfa a'r cartref.
Mae dwy brif raglen i'w cael ym mhecyn Cysgliad, sef Cysill (sy'n gwirio sillafu a gramadeg) a Cysgeir, sy'n eiriadur electronig hwylus a chynhwysfawr ar gyfer eich cyfrifiadur.
Am fwy o wybodaeth am Cysgliad, gallwch ymweld â Gwefan Cysgliad. Cewch atebion i gwestiynau cyffredin am Cysgliad ar dudalen Cwestiynau Cyffredin Cysgliad, yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â pha raglenni a systemau mae Cysgliad yn gweithio gyda nhw.
Gellir cael mwy o fanylion am y tîm datblygu yma.
Os ydych chi'n chwilio am y fersiwn newydd o Cysgliad sy'n gweithio ar Apple Mac, cliciwch yma.
Cysill 3 - Gwirydd sillafu a gramadeg Cymraeg
Gwirydd sillafu a gramadeg yw Cysill. Mae'r gwirydd sillafu yn adnabod gwallau teipio a chamsillafu, gan dynu sylw atynt a chynnig cywiriad. Mae’r gwirydd gramadeg yn gallu cywiro camdreiglo a chamgymeriadau gramadegol, gan roi’r rheswm pam fod y gwall yn cael ei gyfrif yn anghywir.
Mae modd gosod y rhaglen i weithio o fewn Microsoft Word, ond mae'n gallu gweithio'n annibynnol hefyd. Amlygwch unrhyw destun yr hoffech chi ei wirio, gwasgu'r bysellau Ctrl, Alt a W ar yr un pryd a bydd y testun yn ymddangos yn Cysill ac yn cael ei wirio. Os yw'r rhaglen wreiddiol yn caniatáu golygu, gall Cysill osod y testun wedi ei gywiro yn ôl yn ei safle gwreiddiol.
Cysgeir - y pecyn geiriaduron Cymraeg a Saesneg
Mae Cysgeir yn eiriadur defnyddiol a chynhwysfawr ar gyfer eich cyfrifiadur. Fel geiriadur meddalwedd mae iddo sawl mantais dros eiriaduron papur traddodiadol.
Gyda Cysgliad, mae'n gyflym ac yn hawdd dod o hyd i air. Teipiwch y gair rydych chi'n chwilio amdano i mewn i'r blwch chwilio a bydd y geiriadur yn dechrau chwilio amdano cyn i chi orffen teipio. Os nad ydych chi'n siwr o'r sillafiad, gallwch deipio'r ychydig lythrennau cyntaf a defnyddio'r ffenestr chwilio ar y chwith i'w ganfod.
Un arall o fanteision Cysgeir yw ei fod yn dod o hyd i dermau neu ymadroddion sy'n cynnwys y gair chwilio; Dim ond clicio ar y botwm glas sydd raid. Petaech chi'n chwilio am y gair 'pysgod' er enghraifft, byddai rhoi clic ar y botwm yn dangos yr holl dermau ac ymadroddion yn y geiriadur sy'n cynnwys y gair pysgod, er enghraifft gwerthwr pysgod (fishmonger) a pysgodyn sgyfeiniog (lungfish).
Un o nodweddion llai cyfarwydd Cysgeir yw bod modd ei ddefnyddio fel geiriadur odlau. Teipiwch '*' cyn llythrennau'r odl ac fe gewch restr o'r holl eiriau sy'n gorffen gyda'r cyfuniad hwnnw o lythrennau.
Nodwedd arall sy'n peri fod Cysgeir yn wahanol i eiriadur traddodiadol yw'r ffaith fod modd diweddaru'r geiriadur dros y we. Pan fydd Canolfan Bedwyr yn rhyddhau rhestr termau newydd, bydd modd i chi ei lwytho i lawr a'i ychwanegu at gynnwys geiriadur Cysgeir.
Prynu Cysgliad
Mae fersiwn cartref Cysgliad ar gael o Ganolfan Bedwyr neu o siopau llyfrau Cymraeg da. Rhaid cysylltu'n uniongyrchol â Canolfan Bedwyr i archebu copïau sy'n gweithio dros rwydwaith eich swyddfa neu sefydliad.
Dyma'r manylion cyswllt:
ffôn: 01248 383293 | ebost: cbs602@bangor.ac.uk