Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Y Gymraeg a'r Gyfraith 

Deddf Llysoedd Cymru 1942 oedd y ddeddf gyntaf ers pedair canrif i newid statws y Gymraeg. Rhoddodd y ddeddf hon ganiatâd cyfyngedig i ddefnyddio'r Gymraeg yn y llys. Fe sefydlodd Deddf yr Iaith Gymraeg 1967 yr hawl i ddefnyddio'r Gymraeg ymhellach yn y llysoedd, a hefyd sicrhawyd cyfle i'w defnyddio mewn gweinyddiaeth gyhoeddus.

Ond y Ddeddf fwyaf arwyddocaol hyd yn hyn o safbwynt ymdrin â'r iaith yw Deddf yr Iaith Gymraeg 1993.

Llun o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993Mae'r Ddeddf hon, sy'n rhoi'r Gymraeg a'r Saesneg ar sail gyfartal mewn bywyd cyhoeddus yng Nghymru, yn garreg filltir yn hanes yr iaith yn y cyfnod modern.

Mewn termau syml mae'r Ddeddf yn nodi tri pheth:

  • mae'n gosod dyletswydd ar y sector cyhoeddus i drin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal, wrth ddarparu gwasanaethau i'r cyhoedd yng Nghymru
  • mae'n rhoi hawl llwyr i siaradwyr Cymraeg i defnyddio'r iaith yn y llys
  • mae'n sefydlu Bwrdd yr Iaith Gymraeg i arolygu cyflawni'r addewidion hyn ac i hybu a hwyluso defnyddio'r iaith Gymraeg

Mae'n bwysig nodi fod grym Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn deillio o'r Ddeddf Seneddol hon. Mae ganddo swyddogaethau sydd wedi eu diffinio'n gyfreithiol a'i brif ddyletswydd yw gweithredu Deddf yr Iaith Gymraeg 1993.

Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd

Datblygwyd gan Draig Technology Cyf. gyda Microsoft Office SharePoint Server 2007.