Mewn mannau eraill ar ein gwefan, cewch ddarllen am hanes y Gymraeg, lle mae’r siaradwyr Cymraeg yn byw a pha wasanaethau sydd ar gael i chi yn Gymraeg. Ar y dudalen hon, fe welwch chi ein bod wedi llwytho traciau CD rydym wedi ei greu er mwyn helpu pobl i ynganu ymadroddion a geiriau syml. Os hoffech chi glywed llais synthetig yn darllen y Gymraeg allan, beth am roi cynnig ar y cyfleuster ‘readspeaker’ sydd ar gael ar y wefan hon.
Os ydych yn darllen ochr Gymraeg y wefan, siawns eich bod eisoes yn gwybod sut mae'r Gymraeg yn swnio. Er hynny, mae cyfle i chi fwrw golwg isod ar un o'n hadnoddau i godi ymwybyddiaeth am y Gymraeg, y CD 'Swnio'n Dda'.
Beth yw Swnio’n dda?
Traciau sain i wrando arnyn nhw a’u hymarfer yw'r rhain. Maen nhw wedi cael eu paratoi er mwyn eich cynorthwyo i ddweud enwau pobl, lleoedd neu ymadroddion syml yn Gymraeg.
Llwythwch draciau unigol CD 'Swnio'n Dda' i lawr gan ddefnyddio'r dolenni ar ochr dde'r sgrîn.
Rhybudd i fod yn ofalus
Dylid pwysleisio nad adnodd i ddysgu Cymraeg mo’r traciau sain hyn. Os oes gan unrhyw un ddiddordeb mewn dysgu siarad Cymraeg, dylech eu cyfeirio at y dudalen berthnasol ar y wefan hon sydd i'w gweld ar ben uchaf y sgrin ar y dde.
Cymorth pellach
Os na fedrwch chi wrando ar y traciau hyn - Cysylltwch â ni, mae copïau o’r CD ar gael.