Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Help / Cymorth

Rhaid cael Adobe Acrobat Reader er mwyn gweld ffeiliau PDF ar y wefan hon.

Nôl Acrobat Reader
Buddsoddwr Mewn Pobl
Nifer siaradwyr 

Dangosodd ffigurau Cyfrifiad 2001 gynnydd o oddeutu 80,000 yn nifer y rheini sy’n medru’r Gymraeg. Gwelwyd hefyd fod 37.7% o blant 3-15 oed Cymru yn medru’r iaith, sy’n gynnydd o 13.4% ers 1991. Ffigurau diddorol yn ddi-os, ond pa gymorth yw’r rhain i ni wrth i ni geisio mynd ati i asesu’r gwir ddefnydd o’r Gymraeg ar hyd a lled Cymru? A yw’r ffaith fod 742 (68%) o bobl Cwmllynfell yn dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn golygu fod 742 o bobl ar ei strydoedd yn defnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd?

Map o Gymru yn dangos ystadegau o niferoedd siaradwyr Cymraeg yng Nghymru fesul adrannau etholiadol

 Y Cyfrifiad yw’r ffynhonnell lawnaf o wybodaeth sydd gennym ar hyn o bryd. Mae’n anodd iawn cymharu ffigurau 1991 ac 2001 yn fanwl gywir, yn enwedig gan fod ffiniau nifer fawr o wardiau wedi newid, ac ad-drefnwyd llywodraeth leol yng Nghymru yn ôl yn 1996. Er hynny, mae digon o gymariaethau bras iawn ar gael i allu mynd â chi ar daith rithwir ar y Traws Cambria o amgylch Cymru. Dyma’r bws sy’n teithio drwy drefi a phentrefi ym mhob rhan o’r wlad lle siaredir Cymraeg fel iaith gymunedol. Bydd ein taith rithwir yn dangos i ni sut mae’r iaith wedi newid ar hyd a lled Cymru ers 1991.

Mae’r daith yn cychwyn ar Ynys Môn, a chyn pen dim ‘rydym wedi cyrraedd Bryngwran – pentref bychan sydd â hen ffordd yr A5 yn rhuo trwy’i ganol wrth nesáu at borthladd Caergybi. Yn ôl Cyfrifiad 2001, mae 76% (1233 o bobl) o’r boblogaeth yn gallu siarad Cymraeg. Yn ôl yn 1991, 79% (1405 o bobl) o boblogaeth y pentref oedd yn gallu siarad Cymraeg.

Bws y Traws Cambria ar ei daith o amgylch Cymru

Ymlaen wedyn i ardal Caernarfon, ac adran etholiadol Peblig, y tu allan i furiau tre’r Cofi. Fel yn 1991, dengys Cyfrifiad 2001 mai dyma’r ardal sydd â’r ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru gyfan, gyda 88% (amcangyfrif o 1942 o bobl) o’r boblogaeth yn medru’r Gymraeg. Yn 1991, roedd 91% (amcangyfrif o 2108 o bobl) o’r boblogaeth yn gallu siarad yr iaith – does bellach unman yng Nghymru â chanran mor uchel.

Ymhen rhai milltiroedd, dyma gyrraedd tref Porthmadog, tref sydd wedi gweld newid mawr yng nghanran siaradwyr Cymraeg, gyda 2 adran etholiadol y dref wedi eu cyfuno, a’r ganran sy’n medru siarad Cymraeg wedi newid o 85% (1378 o bobl) yn 1991 i 74% (2534 o bobl) ddegawd yn ddiweddarach. Dylid nodi fod ffiniau’r adrannau etholiadol yn y dref wedi newid ac felly mae’n amhosibl gwneud gwir gymhariaeth rhwng 1991 a 2001 yn nhref Porthmadog.

Ymlaen wedyn i gartref dros 6350 o fyfyrwyr llawn amser yn ystod tymor 2000-2001 a gynhwyswyd yng Nghyfrifiad 2001 ond nid yn 1991 – Aberystwyth. Yn ddi-os dyma un o’r ffactorau sy’n gyfrifol am y gwymp yng nghanran siaradwyr yr iaith yn y dref. Wrth gyfuno gwahanol wardiau 1991 i greu ffigur o 3596 o siaradwyr (44.5%), gellir ei gymharu â chanran cyfanswm y pum adran etholiadol yn 2001, sef 36% (4055 o siaradwyr) – cynnydd yn y niferoedd, ond lleihad yn y canran – sefyllfa debyg i sir Ceredigion yn ei chyfanrwydd. Mae’n debyg y gallai’r ganran hon fod wedi bod yn uwch petai’r Cyfrifiad wedi’i gynnal yn ystod gwyliau prifysgol. Mae’r un peth yn wir am dref Llanbedr Pont Steffan.

Ymlaen wedyn i dref Caerfyrddin – tref golegol arall - lle y gwelwyd ychydig o gwymp yng nghanran siaradwyr Cymraeg, o 47 yn 1991, o gyfuno’r 3 ward, (5607 o siaradwyr) i 43 yn 2001 (5431 o siaradwyr). I lawr y draffordd, a sir Abertawe yw’r stop nesaf. Gwelwyd sefydlogi yng nghanran a nifer y siaradwyr Cymraeg y sir hon yn 2001, gyda’r ffigur yn aros yn 13%.

A dyma ni yn cyrraedd Caerdydd – neu yn fwy penodol, adran etholiadol Butetown, nid nepell o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ardal sydd wedi gweld newidiadau sylweddol ers Cyfrifiad 1991. Bryd hynny, ychydig iawn o bobl Cymraeg eu hiaith oedd yn byw yn yr ardal. 111 – neu 3.2% ohonyn nhw’n nodi eu bod yn gallu siarad Cymraeg nôl yn 1991. Erbyn 2001 roedd y ganran wedi codi i 8% gyda 358 o’r rheini sy’n byw yn y ward yn gallu siarad Cymraeg – ffigur a dreblodd oddi ar 1991. 

Dyna ddiwedd ein taith ar y Traws Cambria - ond gwerth picio draw i ardal Tor-faen am ychydig. Dyma ardal sydd wedi gweld cynnydd o 8 pwynt canran yng nghanran y siaradwyr Cymraeg dros y ddegawd ddiwethaf. Erbyn hyn mae 12% o boblogaeth adran etholiadol Abersychan yn nodi eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn yr ardal. Mae Rhondda Cynon Taf hefyd yn dangos cynnydd sylweddol, a 19%o boblogaeth tref Pontypridd yn gallu siarad Cymraeg. Ond pam fod cymaint o gynnydd yma? Canlyniad system addysg a llwyddiant addysg Gymraeg a dwyieithog dros gyfnod o ddegawdau, yw un o’r rhesymau. Mae canlyniad blynyddoedd o ymroddiad gan athrawon a rhieni gweithgar wedi cyfrannu at llwyddiant yma, ac mae’n ymddangos fod yr ymroddiad a’r brwdfrydedd yma dros y Gymraeg yn cynyddu.

Taith go wahanol fu’r daith yn 2001 o’i chymharu â 1991. Er bod canran siaradwyr Cymraeg wedi gostwng mewn rhai ardaloedd, mae nifer y rheini sy’n nodi gallu yn yr iaith wedi codi ledled Cymru. Felly, mae hyd yn oed edrych ar un cyfres o ffigurau ac asesu sefyllfa’r iaith drwy ganrannau yn hytrach nag ystyried niferoedd hefyd yn gallu bod yn gamarweiniol. Ffigurau moel efallai, ond mae hyd yn oed y rhain yn gallu llywio barn.

Am fwy o dipyn o ddadansoddi ar ganlyniadau Cyfrifiad 2001, gweler ein hadran gyhoeddiadau.

Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd