Bydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn dod i ben ar 31 Mawrth 2012, yn sgil Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.
Bydd gwaith y Bwrdd yn cael ei rannu rhwng:
- Comisiynydd y Gymraeg
- Llywodraeth Cymru
Dyletswyddau sy’n trosglwyddo i Gomisiynydd y Gymraeg:
-
Gwaith gyda chyrff cyhoeddus a chynlluniau iaith
-
Delio â chwynion gan aelodau o’r cyhoedd ynglŷn â methiant corff i ddarparu gwasanaeth Cymraeg
-
Cynghori a hybu arfer da ymysg cyrff preifat a chyrff sector gwirfoddol
-
Terminoleg a chyfieithu
-
Ymchwil i unrhyw faes o ddiddordeb i’r Gymraeg
Dyletswyddau sy’n trosglwyddo i Lywodraeth Cymru:
-
Grantiau i hyrwyddo’r Gymraeg
-
Prosiectau e.e. prosiectau ieuenctid, teuluoedd a chymunedol
-
Goruchwylio cynllunio addysg Gymraeg
-
Cydlynu ffrwd gwaith ieithoedd lleiafrifol Cyngor Prydain ac Iwerddon
Y Comisiynydd
Penodwyd Meri Huws yn Gomisiynydd cyntaf y Gymraeg, a bydd ei phwerau’n dod i rym ar 1 Ebrill 2012.
Rôl y Comisiynydd
-
Hyrwyddo defnydd o’r iaith Gymraeg
-
Hwyluso defnydd o’r iaith Gymraeg
-
Hyrwyddo cyfartaledd rhwng y Gymraeg a’r Saesneg
Beth sy’n newydd yn sgil Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011?
-
Mae gan y Gymraeg statws swyddogol yng Nghymru
-
Bydd y drefn bresennol o gynlluniau iaith yn dod i ben. Bydd safonau yn dod yn eu lle, a bydd y Comisiynydd yn llunio’r rhain yn dilyn cyfnod o ymgynghori
-
Bydd gan y Comisiynydd bŵer i orfodi cyrff i gydymffurfio â safonau
-
Bydd modd i’r Comisiynydd ymchwilio i fethiant corff / person i gydymffurfio â chynlluniau iaith, a maes o law, safonau. Gall hefyd ymchwilio i sefyllfaoedd lle credir bod corff / person yn rhwystro rhyddid unigolion i gyfathrebu â’i gilydd drwy gyfrwng y Gymraeg.
-
Gall corff / person apelio i’r Comisiynydd os yw o’r farn bod safon / gofyniad yn afresymol neu’n anghymesur
-
Bydd modd i gorff apelio ymhellach i Dribiwnlys os yw’n credu bod gofyniad neu safon, neu gosb am fethu cydymffurfio â safon, yn afresymol neu’n anghymesur. Gall y Tribiwnlys naill ai gadarnhau, amrywio neu ddirymu penderfyniad y Comisiynydd.
Rhagor o wybodaeth am Fesur y Gymraeg
Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011
Gwefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru