Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Help / Cymorth

Rhaid cael Adobe Acrobat Reader er mwyn gweld ffeiliau PDF ar y wefan hon.

Nôl Acrobat Reader
Buddsoddwr Mewn Pobl
Hanes  

Yr iaith o'r cychwyn


Iaith Geltaidd yw'r Gymraeg, sy'n perthyn yn agos i'r Gernyweg a'r Llydaweg. Mae'r Gymraeg sy’n cael ei siarad heddiw yn ddatblygiad uniongyrchol i iaith y chweched ganrif.

Ychydig iawn o enghreifftiau ysgrifenedig o Gymraeg Cynnar sy’n bodoli heddiw, gyda'r cynharaf yn dyddio o ganol y nawfed ganrif. Gwelir nodweddion Hen Gymraeg yng ngwaith y Cynfeirdd, sy'n dyddio o ddiwedd y chweched ganrif, er fod y llawysgrifau'n llawer mwy diweddar.

Tudalen o lyfr Aneirin, un o lawysgrifau cynharaf y GymraegCanu Aneirin yw'r enwocaf o’r rhain, ac er mai Cymraeg yw iaith y gwaith, fe'i cyfansoddwyd yn ne'r Alban a gogledd Lloegr, lle 'roedd y Gymraeg yn cael ei siarad ar y pryd.

Y Mabinogi


Yn ddi-os, un o weithiau enwocaf llenyddiaeth Cymru yw'r Mabinogi – cyfres o straeon a gofnodwyd rhywbryd rhwng 1050 a 1170, ond sydd, yn llawer hŷn na hynny, gan idLlun o Pwyll, Pendefig Dyfed yn hela (Mabinogi)dynt gael eu pasio o genhedlaeth i genhedlaeth yn null y Cyfarwydd – yr adroddwr straeon – dros gyfnod o ganrifoedd.

Er mai'r pedair stori sy'n creu Pedair Cainc y Mabinogi – Pwyll Pendefig Dyfed, Branwen ferch Llŷr, Manawydan, a Math fab Mathonwy – yw’r enwocaf o'r gyfres, ceir nifer o straeon eraill, gan gynnwys Iarlles y Ffynnon, Breuddwyd Rhonabwy a Culhwch ac Olwen.

Y Gymraeg 1200 - 1600

Yr Oesoedd Canol 

Felly, erbyn y cyfnod Normanaidd cynnar, 'roedd llawer o enghreifftiau o lenyddiaeth Cymraeg ar gael, yn enwedig wrth i hen straeon a barddoniaeth, a basiwyd o genhedlaeth i genhedlaeth gael eu cofnodi'n barhaol.

'Roedd hwn yn gyfnod pwysig o ran barddoniaeth Gymraeg, gyda mân arglwyddi a thywysogion ym mhob rhan o Gymru yn noddi beirdd yn eu llys. Gwaith y beirdd oedd cynhyrchu cerddi mawl i'r tywysogion a'r arglwyddi, gan ddisgrifio'u dewrder ar faes y gad. 'Beirdd yr Uchelwyr' yw'r enw a roddir ar y Beirdd hyn. 

Yn dilyn goresgyn byddin Llywelyn ap Gruffudd, parhaodd y traddodiad o noddi beirdd ymysg yr uchelwyr, ac yn ddi-os, yr enwocaf o feirdd y cyfnod oedd Dafydd ap Gwilym.

'Roedd ei farddoniaeth llawn hiwmor yn chwa o awyr iach mewn cyfnod anodd yn hanes Cymru. Yn wahanol i'r Gogynfeirdd, serch a natur oedd prif fyrdwn gwaith Dafydd ap Gwilym, ac mae’i waith yn parhau'n boblogaidd, nid yn unig yn y Gymraeg, ond mewn cyfieithiadau i nifer o ieithoedd eraill.

Er i siaradwyr Saesneg a Ffrangeg lifo i Gymru yn ystod y cyfnod hwn, Cymraeg oedd prif iaith Cymru trwy gydol y canol oesoedd, gyda nifer fawr o’r boblogaeth yn uniaith Gymraeg. 'Roedd gan wahanol ardaloedd o Gymru eu tafodiaith eu hunain – er enghraifft Gwyndoleg yn ardal Gwynedd, a Gwenhwyseg yn ardal Gwent.

Deddfau Uno 1536 a 1542

Gwelwyd newid mawr yn y defnydd swyddogol o'r Gymraeg yn dilyn pasio Deddfau Uno 1536 a 1542, ac yn wir, ni welwyd yr iaith yn cael ei defnyddio’n swyddogol eto, tan ar ôl pasio Deddf Llysoedd Cymru yn 1942.

Bwriad y Ddeddf Uno oedd gwneud Cymru'n rhan o Loegr, a thrwy hynny, deddfwyd mai Saesneg fyddai iaith cyfraith a gweinyddiaeth yng Nghymru, ac na fyddai modd i unrhyw berson uniaith Gymraeg ddal swydd gyhoeddus o hyn ymlaen. Er na chafodd yr iaith ei gwahardd gan y ddeddf, collodd y Gymraeg ei statws, ac arweiniodd hyn at ganrifoedd o farwolaeth ieithyddol. 

Cyfieithu'r Beibl

Byddai'r iaith Gymraeg wedi bod mewn perygl dirfawr yn ystod y cyfnod Tuduraidd, oni bai am un datblygiad a digwyddiad hynod bwysig ar ddiwedd yr unfed ganrif ar bymtheg, a sicrhaodd Gymraeg ysgrifenedig safonol.

Cyfieithwyd y Beibl i'r Gymraeg gan yr Esgob William Morgan o Lanrhaeadr-ym-Mochnant, a chan fod Cymru'n wlad lle ‘roedd crefydd yn rhan bwysig o fywyd y boblogaeth, bu hyn yn hwb mawr i'r iaith. Felly, er mai Saesneg oedd iaith busnes swyddogol yng Nghymru, sicrhaodd cyfieithu'r Beibl mai Cymraeg oedd iaith crefydd ac addoli ar lawr gwlad. 

Y Gymraeg o 1600 - 1900


Erbyn diwedd yr ail ganrif ar bymtheg a dechrau'r ddeunawfed ganrif, 'roedd nifer fawr o bobl gyffredin Cymru wedi troi'u cefnau ar yr eglwys, ac yn addoli yn y capeli anghydffurfiol, a oedd yn prysur ddatblygu ym mhob rhan o Gymru. Daeth y capel yn ganolbwynt i fyLlun o garreg goffa Ellis Wynnewyd Cymraeg y cyfnod.

Bu hwn hefyd yn gyfnod prysur ym maes llenyddiaeth Gymraeg, gyda chyhoeddi gweithiau megis Gweledigaetheu y Bardd Cwsc gan Ellis Wynne, a Cannwyll y Cymru gan y Ficer Prichard. Llyfr poblogaidd a phwysig arall a gyhoeddwyd yn ystod y cyfnod hwn oedd cyfrol Theophilus Evans, Drych y Prif Oesoedd, cyfrol yn olrhain hanes Cymru drwy'r oesoedd, ac erbyn 1900 'roedd y gyfrol wedi’i hail argraffu o leiaf ugain o weithiau.

Yn sgil datblygiadau yn y maes cyhoeddi yn y Gymraeg a'r SaesnLlun o bwll glo yn y bedwaredd ganrif ar bymthegeg, daeth llythrennedd yn fwy fwy pwysig i bobl gyffredin ar hyd a lled Cymru a gweddill Prydain, a bu'r Ysgol Sul ynghyd â'r ysgolion cylchynol a ddatblygwyd gan Griffith Jones Llanddowror, yn hwb mawr i lythrennedd, wrth i fwy a mwy o bobl Cymru ddysgu darllen y Beibl a chyfrolau crefyddol eraill.

Cyhoeddwyd dros 2500 o lyfrau Cymraeg yn ystod y ddeunawfed ganrif yn unig, i ymateb i alw pobl Cymru am ddeunydd i'w ddarllen.

Gwelodd y Chwyldro Diwydiannol ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg newid eto yn yr iaith yng Nghymru. Ar ddechrau'r ganrif, 'roedd 80% o bobl Cymru yn siarad Cymraeg, ond dyma'r cyfnod pan welwyd Saesneg yn dod yn brif iaith rhai rhannau o'r wlad.

Gwelwyd mewnlifiad mawr i ardaloedd diwydiannol y de yn ystod y cyfnod hwn, a chafodd hyn effaith mawr ar yr iaith yng Nghymru dros y blynyddoedd canlynol, gan fod nifer siaradwyr Cymraeg wedi gostwng o 80% o’r boblogaeth i 50% erbyn diwedd y ganrif.

Y Gymraeg hyd Heddiw

Ar ddechrau'r 20fed ganrif, roedd bron i hanner poblogaeth Cymru yn siarad Cymraeg. Cofnododd Cyfrifiad 1911 fod bron i filiwn o bobl yn eu hystyried eu hunain yn siaradwyr Cymraeg. Mae adroddiad am bob un cyfrifiad sydd wedi gofyn cwestiwn am y Gymraeg ar gael ar y wefan hon.

Ers hynny, syrthiodd nifer y siaradwyr Cymraeg yn gyson tan yn weddol ddiweddar, am nifer o resymau gwahanol, fel:

  • patrymau ymfudo o ardaloedd gwledig i ardaloedd trefol i chwilio am waith
  • mewnfudiad siaradwyr Saesneg i ardaloedd gwledig
  • mwy a mwy o gyfryngau newyddion ac adloniant, drwy gyfrwng y Saesneg
  • datblygiad cymdeithas sy'n gyffredinol yn fwy seciwlar, yn arwain at leihad dylanwad y capeli, a fu'n ganolbwynt cymaint o weithgareddau Cymraeg traddodiadol
    AMap Cyfrifiad 2001 o Gymru yn dangos nifer o siaradwyr Cymraeg fesul adrannau etholiadolrweiniodd y ffactorau hyn gyda'i gilydd at ddirywiad yr iaith mewn nifer o gymunedau a fu unwaith bron yn gwbl Gymraeg eu hiaith.

    Erbyn 1991, er fod y nifer o bobl oedd yn gallu siarad yr iaith yn dal dros hanner miliwn (508,098), roedd hyn yn cynrychioli 18.7 y cant yn unig o'r boblogaeth.

    Am resymau technegol yn ymwneud â'r ffordd y mae canlyniadau gwahanol Gyfrifiadau'n cael eu cyflwyno, nid yw'n hawdd cymharu canlyniadau 1991 â'r rhai cynharach. Serch hynny, gellir cymharu canlyniadau 1981 a 1991, ac ar sail hyn, mae canlyniadau 1991 a 2001 yn galonogol.

    Yn fwyaf arwyddocaol, gwelwyd yng nghanlyniadau Cyfrifiad 1991 gynnydd yn y niferoedd a'r canran o bobl ifanc oedd yn gallu siarad Cymraeg - a phobl ifanc wrth gwrs yw dyfodol yr iaith. Parhaodd y duedd hon y tu hwnt i 1991 ac fe'i hadlewyrchir yng nghanfyddiadau Cyfrifiad 2001 a gyhoeddwyd yn 2003. Cofnododd y cyfrifiad hwn fod 20.8% o boblogaeth Cymru'n dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg. Rydym wedi dadansoddi'r Cyfrifiad hwn yn fanwl ac mae'r dadansoddiadau, yn fapiau a phapurau briffio ar gael yn llyfrgell gyhoeddiadau'r wefan hon. 
     
     

Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd