Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Yn adran hon:
Help / Cymorth

Rhaid cael Adobe Acrobat Reader er mwyn gweld ffeiliau PDF ar y wefan hon.

Nôl Acrobat Reader
Buddsoddwr Mewn Pobl
Y Bwrdd ar Flaen y Gad Gyda Thechnoleg Gwybodaeth 

06.04.2006 

Sicrhau bod y Gymraeg yn parhau’n chwaraewr cryf ym myd technoleg newydd yw bwriad Bwrdd yr Iaith Gymraeg wrth lansio strategaeth ar Dechnoleg Gwybodaeth a'r Gymraeg heddiw.

Datblygwyd y strategaeth derfynol yn dilyn ymgynghoriad eang ac mae’n cynnwys nifer o dargedau a fydd yn fframwaith i waith yn y maes yma yn y dyfodol.

Meddai Cadeirydd y Bwrdd, Meri Huws:

"Gyda thechnoleg gwybodaeth yn chwarae rhan gynyddol bwysig yn ein bywydau ni oll, mae'n hanfodol ein bod ni'n gweld rhagor o ddatblygiadau drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydw i, felly, yn eithriadol o falch ein bod ni fel Bwrdd wedi bachu ar y cyfle i fod ar flaen y gad yn y gwaith wrth greu'r strategaeth hon, strategaeth a fydd, yn ddi-os, yn hwb mawr i statws yr iaith Gymraeg yn y dyfodol.”

Ychwanegodd Gweinidog Llywodraeth Cynulliad Cymru dros Ddiwylliant, yr Iaith Gymraeg a Chwaraeon, Alun Pugh:

"Mae cynllun strategol Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer Cymru ddwyieithog, Iaith Pawb, yn datgan yr angen i brif-ffrydio'r iaith Gymraeg mewn nifer helaeth o feysydd, gan gynnwys technoleg gwybodaeth. Mae'n faes sy'n datblygu drwy'r amser, ac mae'r strategaeth hon yn dangos yn glir sut y gallwn sicrhau bod y Gymraeg yn chwarae rhan yn y maes hollbwysig hwn. Mae'r Bwrdd i'w longyfarch ar y gwaith hwn."

Yn ogystal â'r strategaeth, mae'r Bwrdd hefyd yn cyhoeddi dogfen gymorth dechnegol ar gyfer y rheini sy'n gweithio ym maes technoleg gwybodaeth. Bwriad y ddogfen hon yw dangos pa mor hawdd yw cynnig dewis iaith i unrhyw un sy'n ymwneud â thechnoleg gwybodaeth yn eu bywyd bod dydd.

Bydd y dogfennau’n cael eu lansio yn swyddfa newydd y Bwrdd yn Rhuthun. Mae'r swyddfa yn un o sawl canolfan sydd gan y Bwrdd mewn gwahanol rannau o Gymru. Lleolir y prif swyddfeydd eraill yng Nghaernarfon, Caerfyrddin a Chaerdydd.

Bydd modd llwytho copïau o'r dogfennau terfynol o 14.00, 6 Ebrill o wefan y Bwrdd.

-Diwedd-

Nodiadau i Olygyddion

• Am ragor o wybodaeth am y datganiad hwn, cysylltwch â Luned Jones, Swyddog y Wasg, Bwrdd yr iaith Gymraeg ar 029 2087 8000, post@byig-wlb.org.uk
• Cewch ragor o wybodaeth am ymwneud y Bwrdd â thechnoleg iaith ar ein gwefan o dan ‘Cyngor’ – ‘Technoleg Gwybodaeth’.
• Bydd y dogfennau’n cael eu cyhoeddi ar wefan Bwrdd yr Iaith Gymraeg ddiwrnod y lansio yn y cyfeiriad canlynol dogfennau


« Nôl

Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd