Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Yn adran hon:
Help / Cymorth

Rhaid cael Adobe Acrobat Reader er mwyn gweld ffeiliau PDF ar y wefan hon.

Nôl Acrobat Reader
Buddsoddwr Mewn Pobl
Enwi enillwyr llunio poster Gwaith Cartref 

23.04.2009 

 

“Mae help ar gael gyda gwaith cartref yn Gymraeg”. Yr her oedd cyfleu’r neges hon ar boster, ac roedd gan ddisgyblion o Gymru benbaladr syniadau creadigol iawn ar sut i roi gwybod i’w ffrindiau a’u rhieni am fodolaeth y Llinell Cefnogi Gwaith Cartref. Enillydd ysgol uwchradd

 

Bethan Thomas, disgybl ym Mlwyddyn 9 yn Ysgol Gyfun Dyffryn Taf, Sir Caerfyrddin gipiodd y wobr gyntaf am ddylunio poster ar gyfer disgyblion uwchradd. Mae poster Bethan yn dangos ôl dychymyg byw ac mae hi wedi defnyddio logo’r Llinell wrth dynnu lluniau’r disgyblion a’r athro.  

  

Enillydd ysgol gynradd Amelia Kelly, disgybl ym Mlwyddyn 6 yn Ysgol Plas Coch, Wrecsam ddaeth yn fuddugol yn y gystadleuaeth ar gyfer disgyblion cynradd. Mae poster Amelia yn denu sylw ac yn lliwgar iawn. Drwy ddefnyddio cymeriadau cartŵn cyfeillgar, mae Amelia wedi llwyddo i gyfleu pa mor hawdd yw cael help gyda gwaith cartref yn Gymraeg.

 

Llongyfarchiadau mawr i’r ddwy! Gobeithio y cânt hwyl wrth ddefnyddio eu ipods newydd sbon. Llongyfarchiadau mawr i’r ddwy ysgol hefyd ar ennill y tocynnau llyfr. Mae’r posteri wedi cael eu cynhyrchu a byddant ar gael o stondin y Bwrdd ar faes Eisteddfod yr Urdd Caerdydd ym mis Mai 2009.


« Nôl

Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd