Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Yn adran hon:
Help / Cymorth

Rhaid cael Adobe Acrobat Reader er mwyn gweld ffeiliau PDF ar y wefan hon.

Nôl Acrobat Reader
Buddsoddwr Mewn Pobl
Cyhoeddi enwau aelodau newydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg 

27.03.2000 

Croesawodd y Cadeirydd, Rhodri Williams, y penodiadau newydd i Fwrdd yr Iaith Gymraeg, a gyhoeddwyd heddiw gan Tom Middlehurst, Ysgrifennydd y Cabinet sydd â chyfrifoldeb arbennig dros yr iaith Gymraeg.

“Mae cefndir proffesiynol a phersonol yr aelodau newydd, yn rhychwantu cwmpas eang o feysydd – o fyd busnes i fyd addysg ac o’r gyfraith i gynllunio strategol. Mae gennym hefyd ddau arbenigwr rhyngwladol ar ddwyieithrwydd a chynllunio ieithyddol ymysg yr aelodau. Dwi’n sïwr y bydd dyfnder profiad y Bwrdd newydd yn ein galluogi i wireddu gweledigaeth y Bwrdd.” meddai Rhodri Williams.

Mynegodd Mr Williams hefyd ei werthfawrogiad i’r aelodau sy’n gadael y Bwrdd, gan ddiolch iddynt am eu holl waith. Dywedodd:

“Gosodwyd sylfaen arbennig ar gyfer y dyfodol yn ein dogfen Yr Iaith Gymraeg: Cenhadaeth a Gweledigaeth ar gyfer 2000-2005 a gyhoeddwyd y llynedd. 'Rwyf yn ddiolchgar iawn i gyn-aelodau’r Bwrdd am eu hymroddiad a’u gwaith dros y blynyddoedd diwethaf. Mae trosglwyddo’r weledigaeth i’r Bwrdd newydd yn rhywbeth y gallant ymfalchïo ynddo.”

Yr aelodau newydd yw:

Gwyn Bartley, Sue Camper, Bethan Guilfoyle, Gwawr Huws, Dr. Medwin Hughes, Dr. Arun Midha, Rhiannon Walters a’r Athro. Colin Williams. Penodwyd yr Athro Colin Baker a Jeffrey Morgan i’r Bwrdd am ail dymor.


« Nôl

Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd