Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Yn adran hon:

Rhaid cael Adobe Acrobat Reader er mwyn gweld ffeiliau PDF ar y wefan hon.

Nôl Acrobat Reader
Buddsoddwr Mewn Pobl
Cliciwch yn Gymraeg yn Microsoft Office 

19.05.2000 

Heddiw (19 Mai 2000), yng nghyfarfod y Bwrdd yn Llanelli, cyhoeddodd Rhodri Williams, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg, fod Microsoft yn hyderus y bydd eu fersiwn nesaf o Microsoft Office, pecyn cyfrifiadurol integredig blaenllaw’r byd, yn cynnwys cefnogaeth Gymraeg, diolch i waith y Bwrdd a Chanolfan Bedwyr ym Mhrifysgol Cymru, Bangor.

Wrth gyhoeddi’r datblygiad cyffrous, dywedodd Rhodri Williams:

“’Rydym yn falch iawn o gyhoeddi’r datblygiad pwysig hwn i’r iaith Gymraeg. Mae hwn yn gam mawr ymlaen i statws yr iaith, yma yng Nghymru ac yn rhyngwladol, ac yn enghraifft arall o Fwrdd yr Iaith Gymraeg yn gweithio’n agos gydag asiantaethau eraill i ddatblygu’r defnydd o’r Gymraeg yn y maes technoleg gyfoes.”

Dywedodd Mike Phillips, Rheolwr Microsoft Office yn y DU:

“Dros y chwe mis diwethaf mae Microsoft, Bwrdd yr Iaith Gymraeg a Phrifysgol Cymru Bangor wedi bod yn edrych ar sut y gellir ychwanegu cefnogaeth Gymraeg i Microsoft Office yn y dyfodol.

“Erbyn hyn rydym yn obeithiol iawn y bydd ein fersiwn nesaf o Office yn cynnwys cefnogaeth i’r iaith Gymraeg. Bydd hyn yn galluogi siaradwyr Cymraeg i wirio sillafu, cysylltnodau a gramadeg mewn dogfennau Microsoft Office – yn Gymraeg.”

Ffrwyth misoedd o waith gan Adran Bolisi Bwrdd yr Iaith Gymraeg a Bill Hicks yng Nghanolfan Bedwyr ym Mhrifysgol Cymru Bangor, mewn cydweithrediad â Microsoft, yw’r cyhoeddiad heddiw. Mae’n dilyn datblygiad CySill, y gwirydd sillafu Cymraeg a gomisiynodd y Bwrdd gan Brifysgol Cymru Bangor yn 1995.

« Nôl

Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd

Datblygwyd gan Draig Technology Cyf. gyda Microsoft Office SharePoint Server 2007.