Dengys ffigurau Cyfrifiad 2001 a ryddhawyd heddiw (30 Mehefin) fod sefyllfa'r iaith Gymraeg – a Chymru - wedi newid yn sylweddol ers y cyfrifiad diwethaf yn 1991.
"Mae'r ffigurau diweddaraf yma'n dangos fod pob ardal yng Nghymru wedi cymryd perchnogaeth o'r iaith," meddai Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Rhodri Williams. "Nid iaith un rhan o Gymru yw'r Gymraeg bellach, ond iaith a siaredir gan o leiaf 10% o'r boblogaeth mewn 80% o wardiau Cymru."
Y prif newid yn sefyllfa'r iaith dros y degawd diwethaf fu'r cynnydd yn ardal y de ddwyrain. Dangoswyd hyn yn gynharach eleni pan ryddhawyd ffigurau yn dangos nifer y siaradwyr Cymraeg ar lefel sirol, gyda 10.7% o boblogaeth Tor-faen, 9% o boblogaeth Blaenau Gwent, a 9.5% o boblogaeth Casnewydd yn medru’r iaith. Dengys y ffigurau a ryddhawyd heddiw fod 60% o wardiau Tor-faen gyda mwy na 10% o siaradwyr Cymraeg.
Tra bo cynnydd mewn ardaloedd llai traddodiadol Gymraeg, mae newid hefyd i'w weld yng nghymunedau cefn gwlad Cymru.
"Mae canran y siaradwyr Cymraeg mewn rhai wardiau yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion wedi gostwng ers Cyfrifiad 1991," medd Rhodri Williams. "Fel y disgwyl, mae hyn wedi digwydd yn yr ardaloedd gwledig gan mwyaf. Bu newidiadau mawr yng nghefn gwlad Cymru dros y degawd diwethaf, a dim ond un ffactor o'r newid yma yw'r elfen ieithyddol. Ond wedi dweud hynny, mae gobaith ar gyfer y dyfodol yma hefyd. Mae'r Bwrdd a nifer o’n partneriaid yn weithredol yn yr ardaloedd hyn, ac mae nifer o gynlluniau arloesol eisoes yn dwyn ffrwyth mewn cymunedau fel Rhydaman yn nwyrain Sir Gaerfyrddin."
"Credaf taw neges bwysicaf y ffigurau a ryddhawyd heddiw yw'r ffaith fod mwy o ardaloedd yng Nghymru lle mae dros 10% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg. Nid consýrn wedi'i gorlannu'n ddaearyddol yw consýrn am yr iaith. Mae'r cynnydd yn arwydd fod y berchnogaeth yn lledaenu ac felly bod gan lawer mwy o gymunedau ledled Cymru ran i chwarae yn nyfodol yr iaith. Mae hyn yn rhywbeth i ni ymfalchïo ynddo."