Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Yn adran hon:
Help / Cymorth

Rhaid cael Adobe Acrobat Reader er mwyn gweld ffeiliau PDF ar y wefan hon.

Nôl Acrobat Reader
Buddsoddwr Mewn Pobl
CD i arwain at frig ynganu Cymraeg cywir 

12.07.2006 

CDSwnio'n dda

Bore da neu bora da? Sut mae dweud.... Yr Wyddgrug? Llandudno? Casllwchwr? Shw mae neu sut mae?

Diolch i CD a thraciau MP3 Swnio’n Dda fydd yn cael eu rhyddhau ar ddydd Llun 17 Gorffennaf gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg bydd cymorth ymarferol ar gael i ddweud geiriau Cymraeg yn glir ac yn gywir. Dyma adnodd newydd i gynorthwyo cyrff cyhoeddus i recriwtio staff gyda gallu sylfaenol i ynganu enwau ac ymadroddion syml yn gywir.

Mae’r CD ar wefan Swnio’n Dda yn cynnwys enwau pobl, enwau lleoedd, cyfarchion ac ymadroddion syml


Yn ôl y Cadeirydd Meri Huws, mater o ofal cwsmer yw sicrhau y gall swyddogion mewn swyddi cyhoeddus ynganu enwau a chyfarchion cyffredin yn raenus a chywir ac os oes unigolion sy’n ansicr sut i ynganu ambell enw yna y mae’n gyfrifoldeb ar gyflogwyr i’w helpu. Dyna swyddogaeth y traciau sain.

Dywedodd Meri Huws, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg, ”Mae bod â'r gallu i ynganu enwau neu gyfarch yn fater o barch sylfaenol tuag at siaradwyr Cymraeg. Rwy’n falch ein bod wedi paratoi’r traciau syml yma fel adnodd i gyrff cyhoeddus eu defnyddio a fy ngobaith yw y bydd cyrff cyhoeddus yn datblygu polisi lle bydd ymgeiswyr am swydd yn cael y traciau sain i feistroli eu cynnwys fel rhan o broses recriwtio a dethol’.

Gofynnodd y Barnwr Phillip Richards i Fwrdd Yr Iaith Gymraeg paratoi'r CD wedi iddo dderbyn copi o adnodd tebyg gan Heddlu Gogledd Cymru.

Dywedodd y Barnwr Phillip Richards, “Fel cadeirydd yr is-bwyllgor o Bwyllgor Sefydlog yr Arglwydd Ganghellor ar yr Iaith Gymraeg sy'n edrych ar hyfforddiant yn y Gymraeg ar gyfer pawb sydd ynghlwm â chyflawni cyfiawnder yng Nghymru – rwy’n falch iawn o'r cyfle i gael croesawu'r CD yma a baratowyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg. Rwy’n hyderus bydd y CD o gymorth mawr i nifer yn y sector cyhoeddus yng Nghymru ac yn help ymarferol i ynganu enwau yn gywir.”

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn rhoi CD awdio i bob ymgeisydd gyda ffurflen gais ac yn asesu hyfedredd bob ymgeisydd fel rhan o’r broses recriwtio a dethol.

Dywedodd Richard Brunstrom, Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru,

“Fel corff cyhoeddus mae gennym ni gyfrifoldeb i sicrhau bod ein staff yn medru dangos cwrteisi a sensitifrwydd iaith yn Gymraeg wrth ddelio â’r cyhoedd yng Nghymru. Dyna pam penderfynom ni greu ein CD ‘Cyflwyniad i’r Gymraeg - 1’ arloesol ar y cyd â Choleg Llysfasi. Mae pob un aelod newydd o staff yn derbyn copi o’r CD a rhaid iddynt basio prawf sylfaenol i ddangos eu bod yn medru dweud enwau pobl a llefydd yn gywir ac ychydig o ymadroddion syml cyn cael eu penodi. Nid oes unrhyw broblemau wedi codi wrth weithredu’r polisi yn ystod y 12 mis cyntaf ac mae’r canran llwyddiant yn 100%. Rydym hefyd wedi rhoi copi cyfarch o’n CD i bob aelod o staff cyfredol ac yn eu hannog i wneud defnydd ohoni.”

Mae copïau cyfarch o’r CD wedi cael eu hanfon at gyrff cyhoeddus yn ystod y wythnos ddiwethaf ac y mae gan Fwrdd Yr Iaith Gymraeg gopi enghreifftiol o gynllun asesu fel y gall unrhyw un sydd am ddatblygu cyfundrefn asesu gael cymorth i wneud hynny gan y Bwrdd maes o law.



DIWEDD


« Nôl

Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd