Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn cyhoeddi Papur Safbwynt ar Sefyllfa Ddeddfwriaethol y Gymraeg
Heddiw, 19 Chwefror 2006, fe gyhoeddodd Aelodau Bwrdd yr Iaith Gymraeg bapur safbwynt ar sefyllfa ddeddfwriaethol y Gymraeg (gweler 'cyhoeddiadau' ar ochr dde y sgrin hon). Paratowyd y papur fel rhan o swyddogaethau statudol y Bwrdd, a chyflwynwyd copi o'r papur at sylw Rhodri Morgan, Prif Weinidog Llywodraeth Cynulliad Cymru ac at y Gwir Anrhydeddus Tony Blair, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig.
Gan siarad ar ran aelodau'r Bwrdd, fe ddywedodd y Cadeirydd, Meri Huws, "Mae ymgorffori swyddogaethau'r Bwrdd i Lywodraeth y Cynulliad yn mynd i drawsnewid y trefniadau deddfwriaethol sy'n cefnogi'r Gymraeg. Mae hyn, ar y cyd â'r newidiadau sy'n cael eu cynnig i Ddeddf Llywodraeth Cymru, yn estyn cyfle naturiol inni ystyried ffurf a chynnwys y ddeddfwriaeth sy'n cefnogi'r Gymraeg.
Fel Aelodau, rydym wedi bod yn ystyried yr union fater hyn, gan ofyn a oedd y gyfundrefn ddeddfwriaethol bresennol yn cynnig fframwaith effeithiol a phriodol i gefnogi datblygiad ac adfywiad y Gymraeg. Fel y corff statudol sydd â'r swyddogaeth i hybu a hyrwyddo'r Gymraeg, mae gennym ddyletswydd i wneud hyn – a chynghori lle y gwelwn angen am newidiadau neu welliannau".
Mae Papur Safbwynt y Bwrdd yn crynhoi barn y Bwrdd ar y materion hyn. Yn y ddogfen, mae'r Bwrdd yn ystyried y materion canlynol: hawliau ieithyddol; y Gymraeg yn y gweithle; cwmpas Deddf 1993; normaleiddio defnyddio'r Gymraeg; gwendidau'r ddeddfwriaeth bresennol; rheoleiddio annibynnol; rôl y Cynulliad Cenedlaethol; a threfniadau trosiannol yn sgil ymgorffori'r Bwrdd.
Dywedodd Meri Huws, Cadeirydd y Bwrdd, "Ers ei sefydlu, mae'r Bwrdd wedi bod yn llwyr ymwybodol bod cryfhau sefyllfa'r Gymraeg yn dibynnu ar ewyllys da a chefnogaeth y di-Gymraeg a'r Cymry Cymraeg. Cred y Bwrdd yn gryf fod deddfwriaeth sy'n hyrwyddo'r Gymraeg ac yn amddiffyn hawliau'r lleiafrif o fewn y gymdeithas yn fodd i ddatblygu'r consensws hyn yn hytrach na'i beryglu.
Mawr hyderwn y bydd cyhoeddi'r papur hwn yn cyfrannu tuag at y drafodaeth hollbwysig ynglŷn a sut all fframwaith ddeddfwriaethol gyfrannu tuag at nod y Llywodraeth o greu Cymru wirioneddol ddwyieithog".
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion
Mae copi o'r Papur Safbwynt i'w ganfod ar wefan y Bwrdd:
www.byig-wlb.org.uk
Crynodeb o brif bwyntiau'r Papur Safbwynt:
- Mae angen adolygu cynnwys y ddeddfwriaeth bresennol. Yn benodol, cred y Bwrdd fod angen datblygu mesurau statudol pellach ym maes hawliau ieithyddol; datblygu mesurau statudol i hyrwyddo gweinyddu dwyieithog o fewn cyrff cyhoeddus; a phennu deddfwriaeth sy'n amcanu i normaleiddio'r defnydd o'r Gymraeg.
- Y Cynulliad Cenedlaethol ddylai fod yn bennaf gyfrifol am ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â'r Gymraeg.
- Dylid penodi rheoleiddiwr annibynnol a chanddo bwerau statudol a chylch gorchwyl diffiniedig a ddylai gynnwys cytuno a goruchwylio cydymffurfiaeth â chynlluniau iaith.
- Ni ddylid trosglwyddo pwerau rheoleiddio presennol y Bwrdd hyd nes y penodir rheoleiddiwr annibynnol ar sail statudol.
- Dylai Llywodraeth y Cynulliad ymgynghori'n llawn ar ei chynigion i ymgorffori'r Bwrdd ac ail-drefnu ei swyddogaethau statudol.