Datganiad Llywodraeth Cynulliad Cymru
Mae Alun Pugh, y Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon wedi cyhoeddi nifer of apwyntiadau ac ail-apwyntiadau i Fwrdd yr Iaith Gymraeg.
- Ail apwyntio Meri Huws yn Gadeirydd y Bwrdd
- Apwyntio chwech aelod newydd - Nicholas Bennett, Huw Jones, G Owen Evans, Elin Wyn, Catherine Rees, Gwyneth Jones
- Ail apwyntio Marc Phillips, Arun Midha, Colin Williams a Rhiannon Walters.
Dywedodd Alun Pugh, y Gweinidog Diwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon:
“Mae sefyllfa’r Gymraeg yn iachach heddiw nag ers amser maith. Dangosodd Cyfrifiad 2001 nid yn unig fod y nifer o bobl sy’n siarad Cymraeg wedi cynyddu, ond fod cynnydd sylweddol yn y nifer o blant sy’n gallu siarad Cymraeg”.
“Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr i hybu’r iaith Gymraeg ac ar flaen y gad yn Ewrop thu hwnt ym maes cynllunio ieithyddol”.
Dywedodd Meri Huws, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg:
“Rydym yn falch iawn i allu estyn croeso cynnes iawn i chwech aelod newydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Maent yn dod ag ystod eang iawn o brofiad, gwybodaeth ac arbenigedd fydd yn fuddiol y tu hwnt wrth i’r Bwrdd barhau a’i waith yn y dyfodol agos. Dyma gasgliad o bobl frwdfrydig â phrofiad o hyrwyddo'r Gymraeg mewn ystod o feysydd pwysig a fydd yn cynorthwyo i yrru gwaith y Bwrdd ymlaen i gyfeiriadau newydd a diddorol”.
Bydd yr holl apwyntiadau ac ail-apwyntiadau yn parhau nes i’r Bwrdd uno gyda Llywodraeth y Cynulliad. Mae pob apwyntiad cyhoeddus yn parhau am 3 mlynedd.
DIWEDD.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch a
Lowri Jones, Swyddog Wasg Llywodraeth y Cynulliad, 029 2089 8557
Luned Jones, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, 029 20878018
Bwrdd yr Iaith Gymraeg
Sefydlwyd Bwrdd yr Iaith Gymraeg gan Ddeddf yr Iaith Gymraeg,1993. Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn gyfrifol am hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg ac am sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal.
Mae’r Bwrdd yn hyrwyddo’r Gymraeg yn y sector preifat a gwirfoddol. Mae hefyd yn cefnogi llawer o brosiectau cymunedol, sy’n cynyddu defnydd o’r Gymraeg.
Penodir aelodau’r Bwrdd gan y Gweinidog dros Ddiwylliant, yr Iaith Gymraeg a Chwaraeon.’
Apwyntiadau Cyhoeddus a Gweithgaredd Gwleidyddol
Gwneir pob apwyntiad ar sail teilyngdod ac nid yw gweithgaredd gwleidyddol yn chwarae rhan yn y broses. Yn unol ag argymhellion gwreiddiol Nolan, mae rhaid cyhoeddi gweithgareddau gwleidyddol yr ymgeiswyr yn y pum mlynedd diweddaraf.
Roedd Nick Bennett yn ymgeisydd i’r Democratiaid Rhyddfrydol yn etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2003. Mae Nick wedi bod yn llefarydd ar rhan y Democratiaid Rhyddfrydol hefyd.
Mae Marc Phillips yn aelod o Blaid Cymru ac wedi canfasio’n achlysurol drosti.
Mae Meri Huws yn aelod o’r Blaid Lafur.
Ni ddatgelwyd gweithgaredd gwleidyddol gan unrhyw aelod arall.
Tal Cadeirydd ac Aelodau y Bwrdd
Tal Cadeirydd – £32,569 y flwyddyn
Tal Aelodau - £6,752 y flwyddyn
Apwyntiadau Newydd
Nick Bennett yw Prif Weithredwr Cartrefi Cymunedol Cymru. Mae’n Aelod o Bwyllgor Ymgynghorol Ofcom dros Gymru.
Catherine Rees yw Cyfarwyddwr Adnoddau Menter a Busnes. Yn wreiddiol o Lanelli mae’n parhau i fyw a gweithio yn yr ardal.
Yn wreiddiol o Aberystwyth, Owen Evans yw Pennaeth Polisi a Chyfathrebu BT Cymru.
Huw Jones oedd Prif Weithredwr S4C rhwng 1994 a 2005. Yn wreiddiol o Gaerdydd ond mae wedi byw a gweithio am nifer o flynyddoedd yng ngogledd-orllewin Cymru cyn cychwyn gyda S4C.
Mae Gwyneth Morus Jones yn byw yn Llandegfan Ynys Môn. Mae wedi gwasanaethu fel Llywydd Cenedlaethol Merched y Wawr a Chadeirydd Mudiad Ysgolion Meithrin.
Yn wreiddiol o Gaerdydd, mae Elin Wyn yn parhau i fyw a gweithio yn y ddinas. Yr oedd yn newyddiadurwraig gyda BBC Cymru ac yn Bennaeth swyddfa’r BBC yn y Cynulliad. Sefydlodd gwmni hyfforddi i ddarparu hyfforddiant newyddiadurol a chyfryngol yn Gymraeg a Saesneg
Ail apwyntiadau
Meri Huws yw Cadeirydd presennol y Bwrdd a Dirprwy Is Ganghellor Prifysgol Bangor.
Marc Phillips yw Cyfarwyddwr Cenedlaethol BBC Plant Mewn Angen.
Mae Arun Midha yn wreiddiol o Gorseinon a dysgodd y Gymraeg fel oedolyn. Fe yw Cyfarwyddwr Busnes a Chynllunio yn yr Ysgol Feddygol a Deintyddol Ôl-Raddedig, yr Ysgol Feddygol, Prifysgol Cymru.
Mae Rhiannon Walters yn dysgu Cymraeg fel ail-iaith i blant ysgol cynradd yn Sir Gâr, ac i oedolion. Fe fuodd yn Gadeirydd Mudiad Ysgolion Meithrin a mae hi ar hyn o bryd yn ddirprwy Gadeirydd Menter Bro Dinefwr.
Mae Colin Williams yn athro ymchwil Ieithyddiaeth Gymdeithasol yn Adran Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Mae’n awdurdod ar gynllunio ieithyddol ac wedi cynghori llywodraethau yn Ewrop a Chanada ar ddatblygiad ieithoedd lleiafrifol.