Datganiad i'r wasg gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yw hwn
Cyhoeddodd Jenny Randerson, y Gweinidog Diwylliant, Chwaraeon a'r Gymraeg heddiw enwau chwe aelod newydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Yr aelodau newydd yw Marc Phillips, Ifan Evans, Betsan Dafydd, Nia Parry, Jeffrey Morgan a Colin Baker.
Marc Phillips, sy'n 49 oed, yw Trefnydd Cenedlaethol Plant mewn Angen y BBC yng Nghymru ac mae'n gyfrifol am ddosbarthu grantiau i grwpiau cymunedol ledled Cymru. Mae ganddo hen hanes o weithio yn y sector gwirfoddol ac yn ei dro, bu'n Brif Weithredwr ar Tenovus, yn Gyfarwyddwr ar Gymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Dyfed ac yn Drefnydd yr Urdd ym Morgannwg Ganol. Cafodd ei fagu yn Aberpennar a Merthyr Tudful lle dysgod Gymraeg yn Ysgol Uwchradd Castell Cyfarthfa. Roedd yn Gadeirydd ar Blaid Cymru rhwng 1996 a 2000 ac yn y 1990au, bu'n ymgeisydd mewn dau Etholiad Cyffredinol a dau Etholiad Ewropeaidd. Yng nghanol y '70au, bu'n Ysgrifennydd Cymdeithas yr Iaith. Mae Marc yn 49 oed, yn briod a chanddo ddau fab ac un wyres ac mae'n byw yng Nghaerdydd.
Mae Ifan Evans, sy'n 29 oed, yn byw erbyn hyn yn Aberystwyth ac yn gyfarwyddwr ar Ganolfan Ddylunio Celtaidd Rhiannon yn Nhregaron. Cafodd ei fagu yn Nhregaron, bu'n ddisgybl yng Ngholeg Llanymddyfri a Choleg yr Iesu Rhydychen cyn dod yn ôl i Geredigion i astudio hanes darlledu yng Nghymru yn Aberystwyth. Bu'n ddarlithydd prifysgol yn y Gymraeg a'r Saesneg cyn mynd yn rheolwr gyfarwyddwr ar Rhiannon Cyf ym 1998. Mae'r cwmni'n dylunio ac yn gwneud ei gyfres ei hun o emwaith Cymreig a Cheltaidd, ac mae newydd orffen prosiect gwerth £600,000 i adnewyddu ei safle ac agor Amgueddfa, Oriel ac Ystafell De newydd yn Nhregaron.
Ag yntau'n byw ac yn gweithio mewn ardal Gymraeg yng nghefn gwlad Cymru, mae'n naturiol bod ganddo ddiddordeb byw yn yr iaith, ond hefyd etifeddodd Ifan Evans arddeliad ei dad-cu, y diweddar Athro Jac L Williams, dros yr iaith, a oedd yn flaenllaw yn y frwydr dros addysg ddwyieithog yn y 1960au a'r 1970au.
Magwyd Betsan Dafydd, sy'n 30 oed, yn Nyffryn Teifi, Sir Gâr. Yna aeth i astudio'r Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe. Ar ôl gweithio am dair blynedd fel gweithiwr ieuenctid gyda Menter Aman Tawe, parhaodd Betsan i weithio gyda phobl ifanc, hynny mewn amrywiaeth o swyddi yn y sectorau gwirfoddol a statudol. Aeth Betsan wedyn i astudio'n rhan-amser ar gyfer Diploma Gwaith Ieuenctid a Chymunedol ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr, Bryste. Yn 2002, aeth i weithio i Asiantaeth Ieuenctid Cymru ar y prosiect Agor Dau Ddrws, gan ganolbwyntio ar Waith Ieuenctid dwyieithog. Mae Betsan bellach yn byw yn Rhondda Cynon Taf ac yn gweithio i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot fel Uwch-Swyddog Ieuenctid. Mae hi hefyd yn astudio'n rhan-amser am Ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd. Diddordeb arbennig Betsan gyda Bwrdd yr Iaith Gymraeg yw cefnogi ac ehangu'r gwasanaethau sydd ar gael i bobl ifanc yn eu dewis iaith a gofalu bod gan iaith a diwylliant Cymru le amlwg ym mhob agwedd ar Waith Ieuenctid yng Nghymru.
Ganed Nia Parry, 27 oed, ar Ynys Môn a'i magu yn Llandrillo-yn-Rhos ond mae hi'n byw bellach yng Nghaerdydd. Enillodd radd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe ac aeth yn ei blaen i wneud gwaith ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae Nia wedi gweithio fel tiwtor dysgu Cymraeg i oedolion ers nifer o flynyddoedd, gan drefnu amrywiaeth o gyrsiau yn y gweithle a chynnal dosbarthiadau nos. Mae hi wedi cyd-ysgrifennu deunydd dysgu a bu'n arwain sesiynau hyfforddi tiwtoriaid yng Nghaerdydd ac ym Mhrifysgol Cymru, Bangor. Ers 2000, bu'n diwtor/cyflwynydd ar y rhaglenni teledu 'Welsh in a Week' a 'cariad@iaith'.
Ganed Jeffrey Morgan, 46 oed, yn y Drenewydd, Powys ond mae'n byw erbyn hyn yng nghyffiniau Caerdydd. Mae'n gyfrifydd siartredig wrth ei broffesiwn, enillodd ei gymwysterau gyda Deloittes. Bu'n gweithio i'r diwydiant trydan a nwy am flynyddoedd mawr ac mae'n gyn-Reolwr Gyfarwyddwr ar Hyder Services Cyf, lle roedd yn gyfrifol am holl wasanaethau cwsmeriaid SWALEC a Nwy SWALEC.
Mae e' bellach yn Gadeirydd ar Economy Power Cyf, cwmni cyflenwi trydan annibynnol, ac ar Eco2 Cyf., cwmni cynhyrchu ynni gwyrdd. Cwmnïau o Gaerdydd yw'r ddau. Mae eisoes yn gadeirydd Pwyllgor Archwilio'r Bwrdd.
Mae Colin Baker yn Athro mewn Addysg ym Mhrifysgol Cymru, Bangor ar ôl astudio yno fel myfyriwr gradd ac ôl-radd. Mae'n awdur ar 12 o lyfrau a thros 50 o erthyglau ar ddwyieithrwydd ac addysg ddwyieithog, ac mae ganddo ddiddordeb arbennig yn y ffordd y mae plant yn datblygu i fod yn ddwyieithog, cynllunio ieithyddol ac addysg ddwyieithog yng Nghymru. Mae hefyd yn darlithio mewn Dulliau Ymchwilio'r Gwyddorau Cymdeithasol a Dadansoddi Ystadegau. Mae'n briod a chanddo dri o blant cwbl ddwyieithog.
Meddai Jenny Randerson "Rwy'n hynod falch bod y 6 ymgeisydd wedi cytuno i ddod yn aelodau o Fwrdd yr Iaith Gymraeg. Â'u profiadau helaeth, bydd eu harbenigeddau'n werthfawr ac yn gaffaeliad i waith y Bwrdd dros y tair blynedd nesaf wrth i'r Bwrdd chwarae ei rhan i roi "Iaith Pawb Cynllun Gweithredu Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer Cymru Ddwyieithog" ar waith.
"Mae'n dda gennyf ddweud hefyd bod Rhiannon Walters, Sue Camper, Arun Midha a Colin Williams wedi derbyn fy nghwahoddiad i aros ymlaen ar y Bwrdd am ail dymor. Maent oll wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr at waith Bwrdd yr Iaith Gymraeg, ac rwy'n ffyddiog y bydd hynny'n parhau am y 3 blynedd nesaf."
Meddai Rhodri Williams, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg " Bydd cefndiroedd a phrofiadau amrywiol yr aelodau newydd yn werthfawr iawn i ni fel Bwrdd dros y tair blynedd nesaf, wrth i ni weithredu ar y data positif a gyhoeddwyd am yr iaith yng Nghyfrifiad 2001. Fe fydd y tair blynedd nesaf yn gyfnod pwysig i'r Bwrdd - a byddwn yn gweithio ar agenda gyffrous er mwyn ehangu'r defnydd o'r iaith mewn cymunedau ym mhob rhan o Gymru."
Nodiadau:
Corff Cyhoeddus a Noddir gan y Cynulliad yw Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
Bydd yr aelodau newydd yn gwasanaethu arno o 1 Ebrill 2003 tan 31 Mawrth 2006. Bydd ail dymor y 3 aelod sydd wedi'u hail-benodi yn para dros yr un cyfnod. Mae'r aelodau'n derbyn tâl.
Mae Colin Baker a Jeffrey Morgan wedi bod yn aelodau o Fwrdd yr Iaith Gymraeg am ddau dymor. Cawsom geisiadau newydd ganddynt ac maent wedi'u ail-benodi, yn unol â'r Cod Ymarfer ar Benodiadau Cyhoeddus.
(5 Mawrth, 2003)