Yn gyntaf, cwynwch wrth y corff
Fel cam cyntaf, dylech gyflwyno’ch cwyn i’r corff, a rhoi amser rhesymol i’r corff ymateb. Os na fyddwch yn gwneud hyn ni fyddwn yn gallu defnyddio’n pŵer dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg i gynnal ymchwiliad.
Ar ôl i’r corff ateb eich llythyr, ac os nad ydych yn fodlon â’r ateb, neu os nad ydych yn derbyn ateb o fewn cyfnod rhesymol, gallwch ofyn i ni ymchwilio i’r mater ar eich rhan.
Cyflwynwch eich cwyn o fewn 12 mis
Bydd disgwyl i chi gyflwyno’ch cwyn cyn gynted ag sy’n ymarferol. Os ydych yn dymuno i ni gynnal ymchwiliad, rhaid i chi gyflwyno’ch cwyn i ni o fewn 12 mis i ddyddiad y diffyg dan sylw. Ni allwn gynnal ymchwiliad statudol yn sgil cwyn i rywbeth a ddigwyddodd dros 12 mis yn ôl, er y gallwn ei thrafod â’r corff dan sylw.
Wrth gyflwyno eich cwyn i ni, darparwch gopi o unrhyw lythyrau neu ddogfennau perthnasol.
Beth bydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn ei wneud?
• Byddwn yn cofnodi ac yn cydnabod derbyn eich cwyn. Cewch wybod enw a manylion cyswllt y swyddog fydd yn ymdrin â’ch cwyn
• Mae’n bosib y byddwn am gysylltu â chi er mwyn gofyn am ragor o wybodaeth
• Yn aml byddwn yn llwyddo i ddatrys cwyn drwy drafod â’r corff, heb orfod cynnal ymchwiliad statudol. Gan amlaf, felly, byddwn am drafod eich cwyn â’r corff dan sylw cyn ystyried cynnal ymchwiliad statudol ffurfiol. Byddwn yn gofyn am ganiatâd i rannu’ch manylion â’r corff dan sylw, os na wnaethoch roi’r caniatâd hwnnw wrth gwyno. Does dim rhaid i chi wneud hyn, ond os ydych yn gwrthod mae’n bosibl na fyddwn yn gallu ymdrin â’ch cwyn yn llawn
• Os cawn gydweithrediad llawn a chyflym gan bob parti, byddwn yn ceisio datrys cwyn yn gyflym. Ond, pan fo angen, gallwn benderfynu cynnal ymchwiliad statudol. Byddwn yn dweud wrthych ein bod am wneud hynny, a bydd swyddog yn cysylltu â chi i egluro beth sy’n digwydd pan fyddwn yn cynnal ymchwiliad. Ar ôl i ni orffen cynnal ymchwiliad cewch chi gopi o adroddiad yn dweud beth yw’n casgliadau a’n hargymhellion i’r corff
• Os nad yw eich cwyn yn un y gallwn ei datrys nac ymchwilio iddi, neu os byddwn yn penderfynu peidio â chynnal ymchwiliad, byddwn yn egluro’r rhesymau dros hynny i chi.
Cysylltu â chi
• Wrth ddefnyddio’r ffurflen gwyno, gofynnwn i chi nodi sut hoffech i ni gysylltu â chi ynghylch eich cwyn. Os na fyddwch yn ateb y cwestiwn hwn, neu os na fyddwch yn defnyddio’r ffurflen byddwn yn ysgrifennu atoch drwy e-bost neu drwy lythyr.