Mae modd gohebu yn Gymraeg â rhai sefydliadau Ewropeaidd drwy anfon e-bost at post@byig-wlb.org.uk gan roi ‘Gohebu â’r UE’ yn deitl i’r e-bost.
Ceir rhestr o’r sefydliadau a’r unigolion y gellir cyfathrebu â hwy o fewn yr Undeb Ewropeaidd drwy ddefnyddio’r ddolen ar ochr dde’r dudalen hon.
Gallwch hefyd bostio eich gohebiaeth at:

Gohebu â’r UE
d/o Bwrdd yr Iaith Gymraeg
Siambrau'r Farchnad
5/7 Heol Eglwys Fair
Caerdydd
CF10 1AT
Gofynnir ichi beidio ag anfon gohebiaeth Gymraeg yn uniongyrchol at yr unigolion neu’r sefydliadau hyn. Os byddwch yn anfon gohebiaeth Gymraeg atynt fe’ch cyfeirir at y gwasanaeth hwn.