Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Termau ar flaenau'ch bysedd 

Dros y blynyddoedd comisiynodd Bwrdd yr Iaith Gymraeg nifer o brosiectau i safoni termau mewn gwahanol feysyddl. Bellach mae’r termau hyn, a argymhellir gan y Bwrdd yn dilyn proses o safoni, wedi’u crynhoi mewn un man sef yn y Gronfa Genedlaethol o Dermau wedi’u Safoni.

Gallwch chwilio am dermau unigol o bob math o fewn y Gronfa. Yr hyn sy’n arbennig am y Gronfa yw y gallwch hefyd lwytho’r termau i lawr i’w defnyddio mewn meddalwedd cof cyfieithu o bob math. Bydd hyn o gymorth mawr i gyfieithwyr wrth eu gwaith, ac wrth sicrhau cysondeb y termau a ddefnyddir mewn testunau dwyieithog. 

Er nad termau technegol safonol mohonynt rydym hefyd wedi cynnwys geirfa arwyddion siopau a geirfa bwydlenni a ddefnyddir gan wasanaeth y Llinell Gyswllt â'r Gymraeg.

Chwiliwch am derm yn y Gronfa Genedlaethol o Dermau wedi'u Safoni neu lwythwch dermau o'r Gronfa trwy glicio ar y ddolen ar ochr dde'r dudalen hon o dan 'dolenni'.

Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd

Datblygwyd gan Draig Technology Cyf. gyda Microsoft Office SharePoint Server 2007.