Mae cynnal ymchwiliad yn broses statudol a gynhelir dan adran 17, Deddf yr Iaith Gymraeg, 1993. Os byddwn yn cynnal ymchwiliad statudol yn sgil derbyn eich cwyn, dyma’r camau y byddwn yn eu cymryd:
• hysbysu’r corff o’n bwriad i gynnal ymchwiliad
• casglu gwybodaeth a thystiolaeth ynghylch y broblem dan sylw, a hynny erbyn dyddiad penodol
• dod i gasgliadau
• llunio adroddiad ar sail y dystiolaeth
• gwneud argymhellion i’r corff i wella’r gwasanaeth Cymraeg dan sylw, os oes angen gwneud hynny.
Beth fydd yn digwydd wedi i ni orffen cynnal ymchwiliad?
• Byddwn yn anfon ein hadroddiad atoch chi, at y Gweinidog o fewn y Llywodraeth sydd â gofal dros faterion yn ymwneud â’r iaith Gymraeg, ac at y corff dan sylw.
• Byddwn yn cyhoeddi adroddiad ar yr ymchwiliad ar ein gwefan (ac eithrio mewn achosion arbennig, er enghraifft lle bo galw am gyfrinachedd).
Beth fydd yn rhaid i gorff ei wneud ar ôl derbyn adroddiad ar ymchwiliad y Bwrdd?
• Gallwn gyflwyno argymhellion i’r corff yn rhan o adroddiad ar yr ymchwiliad ac fe ddylai hynny sicrhau newid neu wella’r gwasanaeth Cymraeg dan sylw.
• Os yw corff yn methu, neu yn gwrthod, gweithredu ein hargymhellion, gallwn gyfeirio’r achos at y Gweinidog o fewn y Llywodraeth sydd â gofal dros faterion yn ymwneud â’r iaith Gymraeg.
• Os byddwn yn dod i gasgliad nad oes gan y corff achos i’w ateb byddwn yn cau’r achos ac yn rhoi gwybod i chi am hynny.
Os byddwn yn cynnal ymchwiliad i gorff y Goron, ni allwn gyfeirio’r mater at Weinidog o fewn y Llywodraeth sydd â gofal dros faterion yn ymwneud â’r iaith Gymraeg. Corff y Goron yw adran o lywodraeth ganolog Prydain neu lywodraeth Cymru, neu rhai cyrff penodol eraill.
Wrth gynnal ymchwiliad, ni all y Bwrdd:
• orfodi corff i gydweithredu â’n hymchwiliad
• gorchymyn corff i ddilyn argymhellion a gyflwynir iddo mewn adroddiad ymchwiliad
• cymryd camau cyfreithiol yn erbyn corff. Gall Gweinidog o fewn y Llywodraeth sydd â gofal dros faterion yn ymwneud â’r iaith Gymraeg ddewis gwneud hynny os byddwn yn cyfeirio achos o fethu gweithredu argymhellion ato
• cynnal ymchwiliad lle na roddwyd cyfle rhesymol i’r corff ei hun ymateb i gŵyn
• cynnal ymchwiliad i rywbeth ddigwyddodd dros 12 mis yn ôl
• defnyddio’n pwerau o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 i gynnal ymchwiliad i gwynion am ddiffyg gwasanaethau Cymraeg gan gyrff sydd heb gynllun iaith statudol
• ymchwilio i safon y gwasanaeth, heblaw i’r graddau fod hynny hefyd yn torri gofynion y cynllun iaith. e.e. os yw meddyg mewn ysbyty yn gwneud diagnosis anghywir o glaf drwy gyfrwng y Gymraeg, nid mater i’r Bwrdd mo hwnnw.
Os byddwch yn ei chael yn anodd i dderbyn gwasanaethau Cymraeg gallwch gysylltu â ni ac fe wnawn ein gorau i’ch helpu.