Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Help / Cymorth

Rhaid cael Adobe Acrobat Reader er mwyn gweld ffeiliau PDF ar y wefan hon.

Nôl Acrobat Reader
Buddsoddwr Mewn Pobl
Grantiau'r Bwrdd 
Mae Cynllun Grantiau 2010/2011 bellach ar gau.  Bydd cystadleuaeth 2011/2012 yn agor ddechrau haf 2010. Ymwelwch eto â’r wefan bryd hynny er mwyn cael y ffurflen gais ar newydd wedd.

 

Mae’n hollbwysig eich bod yn darllen y dudalen hon yn ei chyfanrwydd er mwyn sicrhau eich bod yn gymwys i ymgeisio Llun arian (drwy garedigrwydd Swyddfa Archwilio Cymru)am grant gan y Bwrdd.  Cofiwch sicrhau eich bod yn gallu ateb pob cwestiwn.

Mae gan y Bwrdd un cynllun grant agored (mae cynllun caeedig i Awdurdodau Addysg Lleol): 

  • Grantiau i Hyrwyddo'r Gymraeg (Y Prif Gynllun Grantiau)

A ydych am ymgeisio o dan ein Prif Gynllun Grantiau?

-Ydw. > Ewch yn eich blaen.

Swyddogaeth Bwrdd yr Iaith Gymraeg yw Hyrwyddo a Hwyluso Defnyddio’r Iaith Gymraeg. Dylai pob cais fod â’r nod hwn yn ganolog i’w amcanion a’i dargedau. Nid yw ceisiadau lle bo’r nod hwn yn ymylol yn gymwys i’w hariannu.

A yw Hyrwyddo a hwyluso defnyddio’r Iaith Gymraeg yn ganolog i’ch cais grant?

-Ydy > Ewch yn eich blaen

-Nac ydy > Peidiwch â mynd ymhellach. Nid yw’ch cais yn gymwys i’w ystyried.

Rhaid sicrhau bod eich cais yn llwyr gyd-fynd â nodau a blaenoriaethaeu strategol y Bwrdd a nodir yn ein hamrywiol ddogfennau strategol (gweler ochr dde’r dudalen hon ar gyfer ein prif ddogfennau strategol). Ar gyfer y rownd ariannu hon, mae'n prif flaenoriaethau wedi eu nodi o dan 'Blaenoriaethau Strategol y Bwrdd ar ochr dde'r dudalen hon.' Dylai'ch cais nodi sut mae'n mynd i'r afael â'r blaenoriaethau strategol hyn. 

A yw’ch cais yn cyd-fynd â blaenoriaethau strategol y Bwrdd fel a amlinellir yn y dudalen 'Blaenoriaethau Strategol y Bwrdd' ar ochr dde'r dudalen hon?

-Ydy > Ewch yn eich blaen

-Nac ydy > Peidiwch â mynd ymhellach. Nid yw’ch cais yn gymwys i’w ystyried.

Rydym yn cynnig grantiau i fudiadau gwirfoddol, a chwmnïau yn y sector preifat sy'n gweithio ar brosiectau fydd yn arwain at gynnydd yn y defnydd o'r Gymraeg.

Ein polisi cyffredinol ar ddyrannu grantiau

Nod ein grantiau yw cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg. Gall y Bwrdd ddyrannu grantiau i gefnogi gweithgareddau a fydd yn anelu at wireddu’r nod hwn.

Mae pob grant a ddyrennir o dan y cynllun hwn yn ddarostyngedig i'n hamodau a'n telerau safonol sydd ar gael ar ein gwefan o dan 'Cyhoeddiadau' ar ochr dde'r dudalen hon.

Rydym yn cynnig Grantiau i Hyrwyddo’r Gymraeg yn unol â chyngor y Llywodraeth ar ddyrannu grantiau.  Ein nod yw gweithredu’r polisïau hyn yn deg ar bob achlysur.

________________________________________

Pwy sy'n cael ceisio am grant

Ymgeiswyr cymwys

Mae'r Cynllun Grantiau yn agored i ymgeiswyr o'r Sector Gwirfoddol a'r Sector Preifat. Gallwn hefyd ystyried ceisiadau gan sefydliadau yn y Sector Cyhoeddus ar gyfer gweithgareddau nad ydynt yn ddarostyngedig i'w Cynlluniau Iaith Gymraeg sydd wedi eu paratoi yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993.

A ydy’ch sefydliad yn perthyn i’r grwpiau a nodir uchod?

-Ydy > Ewch yn eich blaen

-Nac ydy > Peidiwch â mynd ymhellach. Nid yw’ch cais yn gymwys i’w ystyried.

Bydd yn rhaid i ymgeiswyr cymwys fod â chyfansoddiad, statws cyfreithiol derbyniol a strwythur rheoli democrataidd.

Gallwn, fodd bynnag, ystyried ceisiadau gan sefydliadau newydd, neu rai sydd ar fin cael eu ffurfio, ond sydd heb ffurfioli eu statws. Petai’r cais yn llwyddiannus, byddai’n rhaid i unrhyw sefydliad fod wedi cydymffurfio â’r amodau uchod cyn i ni allu dechrau talu’r grant.

Oes gennych chi gyfansoddiad a statws cyfreithiol derbyniol (neu a ydych ar fin eu cael)?

- Oes > Ewch yn eich blaen

- Nac oes > Peidiwch â mynd ymhellach. Nid yw eich cais yn gymwys i’w ystyried.

________________________________________

Ymgeiswyr nad ydynt yn gymwys i dderbyn grant o dan y cynllun hwn

 

  • Unigolion
  • Sefydliad heb gyfansoddiad, statws cyfreithiol derbyniol a strwythur rheoli democrataidd.
  • Sefydliadau yn y sector cyhoeddus ar gyfer gweithgareddau sy'n ddarostyngedig i'w Cynllun Iaith Gymraeg, wedi ei baratoi o dan Deddf yr Iaith Gymraeg 1993.
  • Cyrff codi arian proffesiynol neu ymgynghorwyr eraill sy’n gweithio ar ran sefydliad. 
  • Awdurdodau Addysg Lleol (mae cynllun caeedig ar gael ar gyfer Awdurdodau Addysg Lleol)

A yw un neu fwy o’r rhestr uchod yn berthnasol i chi neu’ch cais?

- Ydy > Peidiwch â mynd ymhellach. Nid yw’ch cais yn gymwys i’w ystyried.

- Nac ydy > Ewch yn eich blaen.

Os byddwch yn cael cynnig grant gan y Bwrdd

Os byddwn yn cynnig grant i chi bydd yn rhaid i chi dderbyn ein telerau a'n hamodau. Mae'r rhain ar gael ar ochr dde'r dudalen hon.

A ydych yn derbyn ein telerau a’n hamodau?

-Ydw > Ewch yn eich blaen

-Nac ydw > Peidiwch â mynd ymhellach. Nid yw’ch cais yn gymwys i’w ystyried.

Canghennau

Os yw eich mudiad yn gysylltiedig â sefydliad mwy, cewch ond ceisio am grant fel sefydliad unigol os ydych yn annibynnol. Os nad ydych yn annibynnol, mae'n bosib y cewch geisio am grant, ond bydd angen cefnogaeth ysgrifenedig gan y sefydliad mwy.

Mudiadau annibynnol

Rhaid profi bod eich mudiad yn ‘annibynnol’.

A oes gennych:

  • Eich cyfansoddiad eich hun;
  • Pwyllgor rheoli ar wahân;
  • Cyfrif banc dan eich rheolaeth uniongyrchol;
  • Eich cyfrifon blynyddol eich hun, wedi eu llofnodi a’u dyddio gan eich cadeirydd, ysgrifennydd neu drysorydd ac archwiliwr neu arolygwr annibynnol;
  • a rheolaeth dros eich incwm a sut mae'n cael ei wario.

- Oes > Ewch yn eich blaen

- Nac oes, ond mae sefydliad mwy yn fodlon cymryd cyfrifoldeb cyfreithiol am eich cais > Ewch yn eich blaen

- Nac oes > Peidiwch â mynd ymhellach. Nid yw’ch cais yn gymwys i’w ystyried

Mudiadau dibynnol

Os nad ydych yn annibynnol ond yn cwrdd â'r gofynion canlynol cewch geisio am grant. Mae'n rhaid i chi fod â:

  • phwyllgor rheoli;
  • cyfrif banc;
  • eich cyfrifon blynyddol eich hun.

Bydd yn rhaid i'r sefydliad mwy gefnogi eich cais a chytuno i gymryd cyfrifoldeb cyfreithiol am unrhyw grant a roddwn i chi.

A yw’r gofynion uchod yn berthnasol i chi neu’ch cais?

- Ydynt > Ewch yn eich blaen gan sicrhau cefnogaeth y mudiad mwy a/neu sicrhau ei fod yn ymgeisio ar eich rhan

- Nac ydynt > Peidiwch â mynd ymhellach. Nid yw’ch cais yn gymwys i’w ystyried

________________________________________

Pa weithgareddau rydym yn eu hariannu

Gallwch ymgeisio am hyd at 70% o gostau gwaith cymwys i hyrwyddo a hwyluso defnyddio'r Gymraeg.

Gweithgareddau nad ydym yn eu hariannu

Nid yw'r gweithgareddau sydd wedi eu rhestru isod yn gymwys i dderbyn cefnogaeth o dan y cynllun grantiau hwn:

  • Darparu deunyddiau addysgol
  • Costau mynychu neu lunio/datblygu Cyrsiau Cymraeg i Oedolion, naill ai yn y gweithle, neu yn ystod amser hamdden. Ni allwn roi cymorth i gefnogi cyrsiau sydd eisoes yn derbyn cymhorthdal gan gyrff cyllido eraill.
  • Darparu deunyddiau dwyieithog megis taflenni ac arwyddion 
  • Gweithgareddau y byddai'n fwy priodol i sefydliadau eraill eu hariannu, e.e. cyrff megis (ond heb fod yn gyfyngedig i) Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer gweithgareddau celfyddydol, Cyngor Llyfrau Cymru ar gyfer llyfrau a chylchgronau, Y Gronfa Loteri Fawr ayb).
  • Gweithgareddau penodol sydd eisoes wedi dechrau heb gymorth grant, neu sydd eisoes wedi dod i ben.
  • Gweithgareddau at ddibenion gwleidyddol.
  • Gweithgareddau sy'n dyblygu gwaith sydd eisoes yn digwydd i hybu'r Gymraeg
  • Costau staff ar gyfer darparu gwasanaethau dwyieithog. Ein polisi yw annog sefydliadau i fabwysiadau polisïau recriwtio a ddylai, dros amser, arwain at sefyllfa lle y gall gwasanaethau dwyieithog gael eu darparu fel elfen arferol.
  • Cyfieithu

A yw’ch cais ar gyfer un neu fwy o’r gweithgareddau uchod?

- Ydy > Peidiwch â mynd ymhellach. Nid yw’ch cais yn gymwys i’w ystyried

- Nac ydy > Ewch yn eich blaen

________________________________________

Sut mae gwneud cais

Os ydych yn diwallu'r holl feini prawf uchod ac wedi ateb pob cwestiwn yn gywir ac yn llawn, gallwch wneud cais am grant drwy anfon y dogfennau canlynol atom:

Y ffurflen gais

Rydym wedi cadw'r ffurflen, sydd ar gael drwy glicio ar ddolen ar y dudalen hon, yn gryno – disgwylir y bydd y wybodaeth ychwanegol sy'n angenrheidiol i asesu eich cais wedi ei chynnwys yn eich Cynllun Corfforaethol/ Gweithredol (gweler isod). Os bydd gennych wybodaeth ychwanegol a fyddai o gymorth i ni wrth asesu'ch cais dylech ei chynnwys fel atodiad. Byddwch yn llenwi'r ffurflen ar ffurf electronig, gan gynnwys dolenni i gyrraedd y dogfennau isod os oes copïau electroneg ohonynt ar gael, ac yn e-bostio’r ffurflen atom. 

Bydd gofyn i chi wneud hyn mewn da bryd fel bod y cyfan yn ein cyrraedd cyn y dyddiad cau.  

Dogfennau mae’n rhaid eu cynnwys wrth ymgeisio. Ni ellir prosesu’ch cais heb y rhain:

  • Cynllun Corfforaethol/Gweithredol (dolen gwe os yn bosibl, yn hytrach na chopi caled) a ddylai gynnwys y canlynol:
  • eich amcanion strategol am y tair blynedd ariannol nesaf
  • Manylion sut yr ydych yn bwriadu cyflawni eich amcanion strategol
  • Eich cyfansoddiad (dolen gwe os yn bosibl, yn hytrach na chopi caled)
  • Adroddiad blynyddol eich sefydliad (dolen gwe os yn bosibl, yn hytrach na chopi caled)
  • Eich cyfrifon archwiliedig diweddaraf

Os byddwch wedi anfon eich cyfansoddiad fel rhan o gais grant blaenorol, nid fydd angen anfon copi ychwanegol. Bydd angen, fodd bynnag, cadarnhau na fu newid yn y cyfansoddiad. Os nad oes gan eich sefydliad gyfansoddiad, bydd y Bwrdd yn gofyn am fanylion pellach ynglŷn â hyn. Rhaid meddu ar gyfansoddiad derbyniol cyn y gallwn dalu grant i’r sefydliad.

Os nad oes gan eich sefydliad adroddiad blynyddol gallwch anfon crynodeb o brif weithgareddau y sefydliad yn ystod y flwyddyn flaenorol atom.

Ni ddylai'r cyfrifon fod dros 12 mis oed. Fodd bynnag, rydym yn sylweddoli y gall hyn fod yn anodd os bydd diwedd blwyddyn ariannol eich sefydliad yn digwydd adeg cyflwyno'r cais i ni. Os bydd hyn yn digwydd, anfonwch gopi o'ch cyfrifon blaenorol a chopi o'ch cyfrifon rheoli diweddaraf atom.

________________________________________

Cyllido dros dair blynedd

Cawn gynnig grantiau dros dair blynedd lle bo hynny’n briodol. Byddwn yn cynnig grant penodol am y flwyddyn gyntaf ac yn rhoi ymrwymiad amodol i ddarparu grant ar gyfer yr ail a'r drydedd flwyddyn os bydd hynny’n berthnasol. Gallwn, fodd bynnag, ystyried rhoi cymorth grant am gyfnod llai na hyn.

Bydd yr ymrwymiad ar gyfer yr ail a'r drydedd flwyddyn yn amodol ar:

  • werthusiad llwyddiannus o weithgareddau'r flwyddyn gyntaf
  • diweddariad derbyniol o'ch cais yn flynyddol
  • cyllid digonol yn cael ei ddarparu i ni gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Rydym yn rhagweld y byddwn yn diweddaru'r ymrwymiad i gyllido sefydliadau dros dair blynedd yn flynyddol o fewn cynllun treigl. Bydd disgwyl, felly, i chi ddiweddaru’ch cais am grant yn flynyddol gan gyflwyno cais ar gyfer y ddwy flynedd sy’n dilyn. Bydd angen i chi ein hysbysu o bob newid sylweddol yn eich cais neu’ch Cynllun Corfforaethol o’r naill flwyddyn i'r llall.

Os byddwn yn cynnig grant i chi bydd yn rhaid i chi dderbyn ein telerau a'n hamodau. Maent i’w cael o dan 'Cyhoeddiadau' ar ochr dde'r dudalen hon.

________________________________________

Sut byddwn ni'n asesu'ch cais

Caiff pob cais ei ystyried yn ôl blaenoriaethau strategol y Bwrdd. Byddwn yn ystyried yn fanwl y graddau y mae gweithgareddau'r sefydliad yn cyfrannu at yr amcanion hyn, sef cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg a sicrhau dyfodol ffyniannus i'r iaith.

Hefyd, byddwn yn ystyried y pynciau canlynol:

  • a yw cyfrifon y sefydliad yn adlewyrchu bod statws ariannol yr ymgeisydd yn dderbyniol
  • rhaid i'r ymgeisydd ddangos na fyddai’n bosib i'r gweithgaredd fynd yn ei flaen heb gymorth grant. Cyn cytuno i gynnig cymorth grant bydd y Bwrdd yn ystyried adnoddau'r ymgeisydd a'r incwm fydd ar gael i gynnal y sefydliad neu'r gweithgaredd. Yn y cyswllt hwn byddwn yn ystyried unrhyw gronfeydd rhydd sylweddol sy'n perthyn i'r sefydliad.
  • bydd y Bwrdd yn blaenoriaethu ceisiadau sy'n derbyn cyllid cyfatebol
  • a yw'r gweithgaredd yn annog ymdrechion gan wirfoddolwyr

A yw’ch cais yn bodloni’r holl bwyntiau hyn?

- Nac ydy > Dylech ail-lunio’ch cais cyn ei gyflwyno i’r Bwrdd

- Ydy > Ewch yn eich blaen

Yn ystod yr asesiad gall un o'n swyddogion eich ffonio neu ymweld â chi i drafod eich cais.

Sefyllfa ariannol eich sefydliad

Mudiadau â chronfeydd rhydd sylweddol

Mae cronfeydd rhydd yn arian sydd ar gael i chi wario fel y mynnwch. Eich pwyllgor rheoli neu ymddiriedolwyr sydd yn rheoli'r arian hwn. Nid yw cronfeydd rhydd yn cynnwys cronfeydd cyfyngedig yn ôl y gyfraith (arian a roddwyd i'ch sefydliad at bwrpas penodol). Er hyn, maent yn cynnwys arian y medrai'r pwyllgor rheoli ei wario'n gyfreithiol, er ei fod wedi ei neilltuo at bwrpas penodol. Os nad ydych yn sicr o'r drefn hon, efallai yr hoffech drafod hyn â'ch cyfrifydd neu'ch ymgynghorydd ariannol

Ni fyddwn fel arfer yn rhoi grant i sefydliad sydd â chronfeydd rhydd sylweddol, heblaw eich bod yn cyfrannu rhan o’r cronfeydd rhydd i ariannu costau neu brosiectau sy'n cyfrannu tuag at gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg.

Ni fyddwn fel arfer yn rhoi grantiau i sefydliadau nad ydynt yn ariannol iach.  Ystyr hyn yw:

  • bod yn rhaid i chi fod â digon o asedion cyfredol i dalu'ch dyledion a'ch rhwymedigaethau; ac
  • os oes gennych ddiffyg ariannol (hynny yw, mae'ch costau'n fwy na'ch incwm), rhaid cyflwyno tystiolaeth ei fod dan reolaeth a'i fod yn lleihau yn hytrach na thyfu.

A yw’ch cais yn bodloni’r holl bwyntiau hyn?

- Nac ydy > Dylech ail-lunio’ch cais cyn ei gyflwyno i’r Bwrdd

- Ydy > Ewch yn eich blaen

 

Mae Cynllun Grantiau 2010/2011 bellach ar gau.  Bydd cystadleuaeth 2011/2012 yn agor ddechrau haf 2010. Ymwelwch eto â’r wefan bryd hynny er mwyn cael y ffurflen gais ar newydd wedd.

 

 

Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd