Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Help / Cymorth

Rhaid cael Adobe Acrobat Reader er mwyn gweld ffeiliau PDF ar y wefan hon.

Nôl Acrobat Reader
Buddsoddwr Mewn Pobl
Panel Cwynion ac Ymchwiliadau Statudol 

Nod, cylch gorchwyl a chyfrifoldeb

Nod y Panel Cwynion ac Ymchwiliadau Statudol yw sicrhau gwell gweithrediad cynlluniau iaith, drwy lunio argymhellion i adroddiadau statudol o dan y ddeddf, fydd yn gwella ystod neu ansawdd gwasanaethau Cymraeg a dwyieithog. 

Bydd y panel yn cwrdd yn ôl y galw i ystyried: 

  • casgliadau adroddiadau ymchwiliadau adran 17 ac i lunio argymhellion statudol;  
  • trefn gwynion y Bwrdd a chwynion gan y cyhoedd;               
    Y panel yma sydd yn gwneud argymhellion o dan Adran 19, Deddf yr Iaith Gymraeg 1993,  yn sgil derbyn adroddiadau ymchwiliadau a gyflwynir gan swyddogion y Bwrdd. Bydd y Panel Cwynion ac Ymchwiliadau Statudol yn gweithredu yn unol â’r egwyddorion canlynol:
  • gyda hygrededd, tegwch, gonestrwydd;
  • yn gweithredu ar sail yr hyn sy’n rhesymol gan ystyried popeth perthnasol a dim byd amherthnasol;
  • yn arddangos parodrwydd i herio canfyddiadau wrth wyntyllu tystiolaeth;
  • dod i benderfyniadau ar sail yr wybodaeth ffeithiol yn wrthrychol a di-ragfarn;
  • gweithredu gydag annibyniaeth barn, heb fod o dan ddylanwad partïon eraill, amgylchiadau o gylch yr achos nac unrhyw bwysau  - boed yn bwysau cyhoeddus neu fel arall;
  • heb gyfaddawdu egwyddorion Deddf yr Iaith Gymraeg 1993.
    Aelodaeth

Mae 5 aelod o Fwrdd yr Iaith Gymraeg yn aelodau’r panel sef 

  • Marc Phillips
  • Gwyneth Morus Jones
  • Elin Wyn
  • Catherine Rees
  • Owen Evans
    Gellir canfod gwybodaeth bellach am yr aelodau ar ochr dde'r sgrin drwy glicio ar  'Pwy yw aelodau'r Bwrdd'

Penderfyniadau

Ni fydd y canlynol yn cymryd rhan yn y broses o lunio argymhellion na’r drefn o wneud penderfyniadau: 

  • swyddog sydd wedi bod yn rhan o baratoi adroddiad yr ymchwiliad sef swyddog datblygu a fu’n drafftio’r adroddiad a chasglu tystiolaeth; Arweinydd Uned sy’n rhan o’r gadwyn reoli ac yn gyfrifol dros  sicrhau ansawdd yr ymchwiliad ac yn cadw gorolwg uniongyrchol dros yr ymchwiliad ei hun; 
  • Cyfreithiwr neu unigolion proffesiynol, megis ymgynghorwyr preifat;
  • Unrhyw un sydd â diddordeb,  a allai, yn sgil hynny, ddylanwadu ar yr argymhellion. 

Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd