Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Enwau Lleoedd 

Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch

Gwasanaeth Ymgynghorol ar Enwau lleoedd

I gael gwybod beth yw ffurf safonol enwau lleoedd yng Nghymru, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio'r cyfeiriad post@byig-wlb.org.uk neu cysylltwch â’r Llinell Gyswllt â’r Gymraeg (gweler ochr dde y dudalen hon)


Rydym yn cynnig cyngor ar ffurfiau safonol enwau lleoedd yng Nghymru i unigolion a sefydliadau o bob math ym mhob cwr o’r wlad. Nid ydym yn gallu deddfu ar ffurfiau enwau lleoedd, dim ond argymell y ffurfiau safonol.

Awdurdodau Lleol sydd â'r hawl i benderfynu yn derfynol ar enwau lleoedd a strydoedd o fewn eu ffiniau oArwydd Croeso i Gymrund byddwn yn cynghori nifer o Awdurdodau Lleol yng Nghymru. 

Rydym yn derbyn cyngor gan ei ymgynghorydd enwau lleoedd, sef yr arbenigwr Yr Athro Hywel Wyn Owen yn y Ganolfan Ymchwil Enwau Lleoedd ym Mangor, a hefyd gan y Tîm Safoni Enwau Lleoedd.

 Tîm Safoni Enwau Lleoedd

Mae'r Tîm Safoni Enwau Lleoedd yn dilyn canllawiau pendant wrth safoni enwau lleoedd. Mae dolenni at gyhoeddiadau perthnasol ar ochr dde'r dudalen hon. 


Mae cyrff eraill yn ymwneud â'r maes enwau lleoedd, dyma rai ohonynt: 

  • Arolwg Ordnans
  • Canolfan Ymchwil Enwau Lleoedd, Prifysgol Cymru Bangor

Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd

Datblygwyd gan Draig Technology Cyf. gyda Microsoft Office SharePoint Server 2007.