Mae gofyn i gyrff cyhoeddus drin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal lle bo hynny’n briodol ac yn rhesymol ymarferol.
Mae gofyn iddynt baratoi cynlluniau iaith Gymraeg sy’n egluro pa wasanaethau Cymraeg y byddant yn eu cynnig.
Mae’r Ddeddf yn dweud y gall y cyhoedd gwyno wrth Fwrdd yr Iaith Gymraeg am fethiant corff i ddarparu gwasanaeth yn Gymraeg yn unol â’i gynllun iaith Gymraeg ac y gall y Bwrdd ymchwilio i’r cwynion hynny.