Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Help / Cymorth

Rhaid cael Adobe Acrobat Reader er mwyn gweld ffeiliau PDF ar y wefan hon.

Nôl Acrobat Reader
Buddsoddwr Mewn Pobl
Cwynion ac ymchwiliadau diweddar 

Wrth ddelio â sefyllfaoedd lle mae amheuaeth bod corff yn torri ei gynllun iaith, mae’n well gan y Bwrdd ddelio â’r mater yn anffurfiol, gan ddod i ddatrysiad yn gyflym ac adfer y gwasanaeth Cymraeg cyn gynted â phosibl. Lle nad yw hyn yn bosibl, bydd y Bwrdd yn defnyddio’i bŵer statudol i gynnal ymchwiliad i’r mater.

 

Astudiaethau Achos

  1. Derbyniwyd cwyn nad oedd swyddfa gofrestru yn fodlon cynnal seremoni briodas yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn sgil ymyrraeth gan y Bwrdd, cafodd yr achwynydd seremoni uniaith Gymraeg.
  2. Derbyniwyd cwyn am ddiffyg argaeledd therapydd iaith a fedrai siarad Cymraeg ar gyfer plentyn. Cytunwyd nifer o gamau gwella gyda’r Bwrdd Iechyd perthnasol. Cynigwyd therapydd Cymraeg ei iaith i’r achwynydd a sicrhawyd argaeledd gwasanaeth Cymraeg o hynny ymlaen.
  3. Cawsom gwynion gan nifer o unigolion bod arwyddion ffordd uniaith Saesneg wedi eu gosod ar gylchfan. Cynhaliwyd ymchwiliad yn sgil derbyn y cwynion hyn, ac o ganlyniad i argymhelliad y Bwrdd, gosodwyd arwyddion dwyieithog yn eu lle.

 

< Nôl i brif tudalen cwyno

Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd