Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Help / Cymorth

Rhaid cael Adobe Acrobat Reader er mwyn gweld ffeiliau PDF ar y wefan hon.

Nôl Acrobat Reader
Buddsoddwr Mewn Pobl
Rhieni 

Yn yr adran hon cewch wybodaeth am:

  • addysg cyfrwng Cymraeg
  • sut gallwch sicrhau dwyieithrwydd eich plentyn yn ystod pob cyfnod o’i fywyd

Os ydych yn rhiant neu’n ddarpar riant, mae’n bwysig ystyried a fyddwch eisiau i’ch plentyn ddilyn ei addysg drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae llawer o fanteision o dderbyn addysg cyfrwng Cymraeg, a bydd eich penderfyniad yn effeithio ac yn siapio holl fywyd eich plentyn.

Darllenwch yr adran sy’n cyfateb i oedran eich plentyn. Mae rhagor o wybodaeth gyffredinol ar gael wrth bori drwy’r dolenni ar y dde.

> Sut mae addysg Gymraeg wedi datblygu?

 

Beichiogrwydd – 2 oed

Mam yn canu caneuon Twf i'w babiY penderfyniad cyntaf sydd angen i chi ei wneud yw dewis a ydych eisiau i’ch plentyn siarad Cymraeg.

Os ydych chi’n siarad Cymraeg, mae’n bosib y bydd hwn yn benderfyniad naturiol, gan y byddwch yn defnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd.

> Sut gallaf gyflwyno’r Gymraeg o’r crud? [agor mewn ffenest newydd] 

Os nad ydych yn siŵr a ydych eisiau i’ch plentyn siarad Cymraeg, mae llu o resymau a manteision dros siarad Cymraeg.

> Beth yw manteision siarad Cymraeg?

Does dim rhaid i chi fedru siarad Cymraeg er mwyn i’ch plentyn ddysgu’r iaith.

> Sut gallaf gefnogi fy mhlentyn hyd yn oed os nad ydw i’n siarad Cymraeg?

Mae rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfnod hwn ar wefan Twf (dolen ar y dde).

 

2 – 4 oed

Mam a'i phlentynYr opsiwn gorau yw dewis defnyddio’r Gymraeg o’r diwrnod cyntaf, fel bod eich plentyn yn clywed yr iaith o’r cychwyn.

Cyfle da i’r babi glywed y Gymraeg yw drwy Fudiad Ysgolion Meithrin (MYM). Mae Cylchoedd Ti a Fi a Chylchoedd Meithrin (sy’n rhan o MYM) yn gyfle i’r plentyn chwarae a dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg; ac yn gyfle i rieni a gwarchodwyr gymdeithasu.

> Beth yw’r opsiynau cyn-ysgol i fy mhlentyn drwy gyfrwng y Gymraeg?

Dewis ysgol gynradd

Dyma’r cyfnod i chi feddwl a ydych am i’ch plentyn gael ei addysg drwy gyfrwng y Gymraeg wrth fynychu ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog.

Os yw eich plentyn eisoes wedi cael ei gyflwyno i’r Gymraeg, mae’n bosibl y bydd yn benderfyniad naturiol i’w ddanfon i ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog.

Os nad yw eich plentyn wedi’i gyflwyno i’r Gymraeg eto, dydi hi ddim yn rhy hwyr - mae ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg yn gyfle i’r plentyn ddysgu defnyddio’r Gymraeg.

> Darllen rhagor am anfon fy mhlentyn i ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog

 

4-11 oed

Tad yn darllen gyda mabErbyn hyn, efallai bod eich plentyn ar fin cychwyn ei addysg, neu wedi dechrau’i addysg statudol.

Mae sawl peth gallwch ei wneud i gefnogi’ch plentyn i ddefnyddio’r Gymraeg, hyd yn oed os nad ydych yn siarad Cymraeg eich hun.

Gallwch ddarllen rhagor am gefnogi’ch plentyn drwy glicio ar y dolenni isod:

1. Sut gallaf gefnogi fy mhlentyn adref?
2. Beth sydd ar gael i fy mhlentyn wneud yn Gymraeg tu allan i’r ysgol?

Dewis ysgol uwchradd

Pan fydd eich plentyn yn cyrraedd Cyfnod Allweddol 2, bydd yn amser meddwl a ydych am i’ch plentyn barhau gyda’i addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ysgol uwchradd.

Os yw eich plentyn eisoes yn derbyn ei addysg mewn ysgol cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog, mae’n bosib bydd yn benderfyniad naturiol i’w ddanfon i ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg.

Os ydych yn ansicr beth fydd orau i’ch plentyn, darllenwch ein cyngor ar y ddolen isod.

> Beth yw’r manteision o barhau mewn addysg Gymraeg?

Efallai bydd eich plentyn wedi gwneud y penderfyniad drosto’i hun, neu efallai bod gwerth cael sgwrs gyda’ch plentyn am ei ddyfodol.

> Darllen rhagor am ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog

Os yw eich plentyn wedi mynychu ysgol gynradd cyfrwng Saesneg, nid yw hyn yn golygu na all fynd ymlaen i dderbyn addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ysgol uwchradd. Mae’r Prosiect Trochi yn rhoi’r cyfle i blentyn fynychu ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg ac i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.

> Beth yw’r Prosiect Trochi?

 

11-17 oed

Merched yn mwynhau'r GymraegErbyn hyn bydd eich plentyn wedi dechrau yn yr ysgol uwchradd.

Mae sawl peth gallwch ei wneud i gefnogi’ch plentyn i barhau i ddefnyddio’r Gymraeg, hyd yn oed os nad ydych yn siarad Cymraeg eich hun.

Gallwch ddarllen rhagor am gefnogi’ch plentyn drwy glicio ar y dolenni isod:

1. Sut gallaf gefnogi fy mhlentyn adref?
2. Beth sydd ar gael i fy mhlentyn wneud yn Gymraeg tu allan i’r ysgol?
3. Gwybodaeth am ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog.

Mae gennym adran o’n gwefan sy’n arbennig ar gyfer pobl ifanc, ac mae’n rhoi pob math o gyngor ar sut i ddefnyddio’r Gymraeg bob dydd. Anogwch eich mab neu ferch i’w ddarllen – dilynwch y ddolen isod:

 

> Adran pobl ifanc

 

Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd