Addysg
Beth bynnag yw cyfrwng iaith dy addysg, mae’n siŵr fod dy ysgol yn cynnig pynciau a gweithgareddau i’w gwneud drwy gyfrwng y Gymraeg.
Beth all fy ysgol / coleg ei gynnig i mi o ran y Gymraeg?
Cymdeithasol
Fel ti’n gwybod, mae yna lot mwy i fywyd na mynd i’r ysgol yn unig!
Beth bynnag yw dy ddiddordebau, mae siŵr bod ffyrdd o’u gwneud yn Gymraeg.
Ble allaf ddefnyddio’r Gymraeg tu allan i’r ysgol?
Mae digonedd o gyfleoedd ar gael i ti ddefnyddio dy Gymraeg hefyd - e.e. os wyt ar Facebook, beth am ddiweddaru dy statws yn Gymraeg neu ddefnyddio Facebook yn Gymraeg?
Sut allaf ddefnyddio mwy o Gymraeg?
Gadael yr ysgol
Os wyt ti’n dod i ddiwedd dy gyfnod yn yr ysgol, efallai dy fod wedi penderfynu beth i’w wneud ar ôl gadael. Beth bynnag rwyt ti’n penderfynu ei wneud, mae digonedd o gyfleoedd ar gael i ti ddefnyddio dy Gymraeg.
Pa gyfleoedd fydd ar gael i mi ddefnyddio’r Gymraeg ar ôl gadael yr ysgol?
Sgil am oes
Ti siŵr o fod yn cael pobl yn dweud wrthot ti am siarad Cymraeg i gadw’r iaith yn fyw. Wel, nid dyna’r unig reswm pam y dylet ti siarad Cymraeg - ma manteision personol i ti hefyd.
Beth yw manteision siarad Cymraeg?
Os wyt ti wedi clicio ar y ddolen uchod, bydde ti’n gwybod taw un o’r manteision o siarad Cymraeg yw ei fod yn rhywbeth i’w roi ar dy CV. Mae hefyd yn golygu bod mwy o swyddi ar gael i ti oherwydd bod gennyt sgil yn y Gymraeg.
Sut all y Gymraeg fy helpu i gael swydd?
Gobeithio bod yr wybodaeth a’r dolenni uchod wedi bod yn ddefnyddiol i ti.
Hyd yn oed os nad wyt am wneud dim o’r hyn ti newydd ddarllen, jest gwna ymdrech i ddefnyddio’r Gymraeg cymaint ag y galli.