Os ydych yn siarad Cymraeg - p’un a ydych wedi derbyn addysg drwy’r Gymraeg yn yr ysgol ai peidio – beth am ystyried dilyn cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg rywbryd?
Addysg Bellach.
Mae 23 o Golegau Addysg Bellach yng Nghymru ac mae’r ddarpariaeth cyrsiau galwedigaethol cyfrwng Cymraeg a dwyieithog a gynigir ganddynt yn cynyddu'n raddol wrth i'r galw dyfu.
Mae’r meysydd lle ceir y rhan fwyaf o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn cynnwys Addysg Blynyddoedd Cynnar, y Cyfryngau, Gweinyddu Busnes, Amaeth a Thwristiaeth a Hamdden.
Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes
Mae 12 o sefydliadau addysg uwch yng Nghymru, yn ogystal â’r Brifysgol Agored a’r Brifysgol Diwydiant. Mae'r prif sefydliadau sydd yn cynnig darpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn cyrsiau heblaw'r Gymraeg yn cynnwys: Coleg y Drindod, Caerfyrddin; Prifysgol Cymru, Aberystwyth; Prifysgol Cymru, Bangor.
Am ragor o wybodaeth am y cyrsiau sydd ar gael drwy’r Gymraeg ym mhob sefydliad, ac am fanteision astudio drwy’r Gymraeg yn y brifysgol, ewch i wefan Mantais gan ddefnyddio'r ddolen ar ochr dde'r dudalen hon.