Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Help / Cymorth

Rhaid cael Adobe Acrobat Reader er mwyn gweld ffeiliau PDF ar y wefan hon.

Nôl Acrobat Reader
Buddsoddwr Mewn Pobl
Darparwyr 

Athro mewn dosbarthOs ydych yn gweithio ym maes addysg, bydd yr adran yma’n darparu cefndir a gwybodaeth am ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg fydd o gymorth i chi yn eich gwaith.

Rôl Bwrdd yr Iaith Gymraeg ym maes addysg a phobl ifanc

Mae’r tîm Plant a Phobl Ifanc yn gweithio gyda:

  • Awdurdodau Addysg Lleol
  • Cyrff a sefydliadau addysgol
  • Darparwyr hyfforddiant a chymwysterau
  • Gwasanaethau ieuenctid

Mae’n swyddogion yn gweithio gyda’r uchod i

 

Sefyllfa gyfredol darpariaeth cyfrwng Cymraeg

Ar hyn o bryd mae 448 o ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg a dwyieithog a 54 ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yng Nghymru.

> Beth yw’r sefyllfa gyfredol o ran darpariaeth cyfrwng Cymraeg? (gwybodaeth hefyd am Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg)

 

Cynyddu'r Defnydd o'r Gymraeg

...O fewn eich sefydliad

Os hoffech gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg o fewn eich sefydliad, mae sawl peth a ellir ei wneud. Man cychwyn fyddai i ddatblygu ethos Gymraeg o fewn y sefydliad. Gellir gwneud hyn drwy sicrhau bod:

  1. holl bosteri ac arwyddion o fewn yr adeilad yn ddwyieithog
  2. staff yn cyfarch aelodau’r cyhoedd yn ddwyieithog
  3. staff dwyieithog i ddefnyddio bathodynnau ‘Cymraeg’ (Iaith Gwaith) sydd ar gael am ddim

> Sut gallaf gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg o fewn fy sefydliad?


...Ymysg disgyblion

Os ydych yn dysgu mewn ysgol gynradd neu uwchradd cyfrwng Cymraeg, mae cyfrifoldeb arnoch i annog disgyblion yr ysgol i siarad ac astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Gallwch gynnig cyfleoedd anffurfiol cyson i siaradwyr Cymraeg a dysgwyr Cymraeg ddod at ei gilydd i gymdeithasu – gallwch drefnu unrhyw fath o weithgaredd.

> Sut gallaf annog disgyblion i ddefnyddio’r Gymraeg?

 

...Drwy ddatblygu eich sgiliau iaith eich hunan

Mae dosbarthiadau ledled Cymru i bobl sydd am loywi eu Cymraeg neu sy’n deall Cymraeg ond nad ydynt yn ddigon hyderus i’w siarad.

> Sut gallaf ddatblygu fy sgiliau iaith fy hun?

 

Cefnogi Anghenion Addysgu Arbennig ac ychwanegol

Mae llawer o sefydliadau a gwasanaethau ar gael i gefnogi disgyblion a gweithwyr sydd yn gweithio gyda disgyblion sydd ag anghenion addysgu arbennig.

> Rhestr o sefydliadau a gwasanaethau sy’n cefnogi gweithwyr sy’n gweithio gyda disgyblion ag anghenion addysgu arbennig

> Dolenni defnyddiol

 

Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd