Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Help / Cymorth

Rhaid cael Adobe Acrobat Reader er mwyn gweld ffeiliau PDF ar y wefan hon.

Nôl Acrobat Reader
Buddsoddwr Mewn Pobl
Cyflwyno'r Gymraeg 

 

 

Rhowch fantais i’ch plentyn.

Cyflwynwch y Gymraeg o’r crud

Os ydych yn rhiant neu’n ddarpar riant, mae’n bwysig i chi feddwl pa iaith byddwch yn siarad gyda’ch babi.

Mae dewis a gwneud penderfyniad yn gynnar i gyflwyno’r Gymraeg o’r crud yn ei gwneud hi’n haws i ddal ati nes ymlaen.

Y cyngor gorau yw dechrau defnyddio’r Gymraeg cyn gynted â phosibl.

Mae’r penderfyniad yn un pwysig – i chi fel rhieni, i’ch plentyn, ac i’r teulu i gyd. Mae siarad dwy iaith yn rhoi mantais i’ch plentyn.

Beth am drafod gyda’ch partner sut byddwch yn cyflwyno’r Gymraeg o’r crud?

Mae llawer o bethau i feddwl amdanynt...

  • A fyddwch eisiau i’ch plentyn siarad Cymraeg o’r crud?
  • Sut byddwch chi’n defnyddio’r Gymraeg yn y cartref?
  • A fydd eich plentyn yn mynd i gylch meithrin ac ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg?

Gwnewch y penderfyniad i gyflwyno’r Gymraeg i’ch plentyn, a rhowch y dechrau gorau posibl iddynt.

Cliciwch yma os hoffech ragor o wybodaeth.

Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd