Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Help / Cymorth

Rhaid cael Adobe Acrobat Reader er mwyn gweld ffeiliau PDF ar y wefan hon.

Nôl Acrobat Reader
Buddsoddwr Mewn Pobl
Technoleg Cymraeg 

Cyfrifiadur CymraegMae technoleg yn yr iaith Gymraeg wedi datblygu dipyn yn ddiweddar, ac erbyn hyn mae modd gwneud llawer o bethau yn y Gymraeg. Dyma rai syniadau ar sut gallwch ddefnyddio’r Gymraeg ar eich cyfrifiadur, ac wrth bori’r we.

Defnyddiwch y Gymraeg ar eich cyfrifiadur:

1. Pecynnau Rhyngwyneb Cymraeg Microsoft – cliciwch ar y meddalwedd rydych yn ei ddefnyddio a gallwch lawrlwytho’r pecyn perthnasol am ddim yma:

        2. Rhyngwyneb Ddwyieithog gan y Canolfan Rheoli Iaith – yn ddelfrydol os ydych angen newid rhwng y Gymraeg a’r Saesneg, ac yn addas i’r gweithle a’r cartref dwyieithog. Gallwch ddefnyddio eich dewis iaith, rhannu’r un peiriant rhwng pobl nad ydynt yn siarad Cymraeg ac mae sawl tiwtorial ar gael. Mae hefyd yn rhoi tudalennau gwe Cymraeg i chi yn awtomatig pan fyddant ar gael.  Ar gael am ddim i Windows XP a Windows Vista (neu Windows 7)

       

      3. Eraill – fersiwn dwyieithog o OpenOffice

       

      4. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Meddal, neu tanysgrifiwch i flog Metastwnsh, blog sy’n sôn am dechnoleg Cymraeg newydd

       logo Cysgliad

       Cymhorthion iaith (gramadeg, geiriaduron a chyfieithu)

      1. Cysgliad – meddalwedd sy’n cynnwys y ddwy raglen isod. Mae’n ddefnyddiol ar gyfer pob achos lle fyddwch yn ysgrifennu yn Gymraeg

      • Cysill – rhaglen sy’n gwirio gramadeg a sillafu Cymraeg
      • Cysgeir – geiriadur Cymraeg/Saesneg

      Addas ar gyfer PC ac am ddim i’r Mac.

       

       

      Meddalwedd Cyfieithu

      Gallwch gyfieithu testunau drwy ddefnyddio Google Translate. Er bod hyn yn gyfleus, nid yw Google Translate yn rhoi cyfieithiad perffaith fel a fyddai cyfieithydd. Dylech wirio’r cyfieithiad gyda rhywun sy’n gallu siarad Cymraeg yn rhugl, er mwyn osgoi camgymeriadau.

       

      Gwybodaeth i Gyrff Cyhoeddus

      Os ydych yn gweithio mewn corff cyhoeddus, yna bydd y ddwy ddogfen isod yn eich cynorthwyo i ddefnyddio mwy o feddalwedd Cymraeg yn y gweithle.

      Canllawiau a Safonau ar gyfer Meddalwedd Dwyieithog - Canllaw i swyddogion technoleg ei dilyn wrth ddarparu gwasanaeth dechnolegol ddwyieithog. Gyda crynodeb i’r rheini sydd llai technolegol hefyd

      Cynllun Achredu - Dogfen sy’n cynorthwyo swyddogion technegol i sicrhau bod systemau meddalwedd yn cydymffurfio â’n Safonau a Chanllawiau ar gyfer Meddalwedd Dwyieithog 

      Nodyn Cyngor: Yr Iaith Gymraeg, Technoleg a Chyfieithu - Dyma nodyn cyngor ymgynghorol sy’n trafod yr iaith Gymraeg, technoleg a chyfieithu

       

       

       

      Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd