Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Help / Cymorth

Rhaid cael Adobe Acrobat Reader er mwyn gweld ffeiliau PDF ar y wefan hon.

Nôl Acrobat Reader
Buddsoddwr Mewn Pobl
Prosiect Estyn Llaw 

Mae Estyn Llaw ar gael i gynnig cefnogaeth a chymorth i fudiadau gwirfoddol a chymunedol i gynyddu eu defnydd o'r Gymraeg er mwyn iddynt fedru cynnig dewis iaith cyflawn i'w defnyddwyr.

Sefydlwyd cynllun Estyn Llaw yn 2000 fel rhaglen beilot yng ngorllewin Cymru yn rhannol er mwyn pontio'r bwlch oedd yn datblygu rhwng darparwyr gwasanaethau gwirfoddol ar y naill law, a siaradwyr Cymraeg ar y llaw arall. Erbyn hyn mae Estyn Llaw yn gweithio gyda mudiadau ymhob cwr o Gymru a thu hwnt.
  

Noddir y cynllun gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg. Fe'i rheolir gan Iaith Cyf. Ym mis Tachwedd 2006 cwblhawyd arolwg o'r cynllun gan gwmni Wavehill. Nododd yr adroddiad lwyddiannau Estyn Llaw o ran codi ymwybyddiaeth ymysg cyrff a mudiadau trydydd sector y gorllewin a'r canolbarth. Mae'r adroddiad llawn ar gael trwy glicio ar y ddolen ar ochr dde’r dudalen hon.

Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd