Prif nod y cyngor hwn yw rhoi arweiniad ynglŷn â gweithredu’r cymal “Polisïau a Mentrau Newydd” mewn cynlluniau iaith Gymraeg. Mae prif ffrydio bellach yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio’r gwaith a wneir dan y deddfwriaeth hwn.
O ganlyniad mae’r ddogfen hon hefyd yn rhoi arweiniad cyffredinol ynglŷn â phrif ffrydio’r Gymraeg ac ynglŷn â hyrwyddo’r iaith Gymraeg mewn polisïau, mentrau a gweithgareddau.
Mae’r ddogfen wedi ei rhannu’n ddwy ran fel y ganlyn:
- Rhan 1 – arweiniad ynglŷn ag elfennau prif ffrydio a pha drefniadau ddylai fod mewn lle i hwyluso hynny
- Rhan 2 – arweiniad am asesu effaith gweithgareddau llunio polisïau ar yr iaith Gymraeg
Mae’r arweiniad hwn wedi ei anelu at awdurdodau lleol yn bennaf ond fe addaswyd y cyngor ar gyfer cyrff iechyd yn 2009. Mae’r egwyddorion craidd yn berthnasol i bob corff cyhoeddus sy’n gweithredu cynllun iaith Gymraeg.
Gallwch lwytho i lawr y ddogfen gyngor llawn drwy glicio ar y ddolen isod. Mae’n ddogfen fanwl a dylid ei darllen yn ei chyfanrwydd.
Dogfen Prif Ffrydio