Mae’r Bwrdd ar hyn o bryd yn datblygu adnoddau ar-lein i helpu busnesau i lunio Polisi Iaith Gymraeg.
Yn y cyfamser, gallwch ddefnyddio templed ar ffurf dogfen Microsoft Word. Mae’r templed yn helpu busnesau i lunio Polisi Iaith Gymraeg, ac yn eich arwain drwy’r amrywiol ffyrdd gall eich busnes ddefnyddio’r Gymraeg. Mae’r ffurflen yn gofyn i chi ddisgrifio beth mae’r busnes eisoes yn ei wneud o ran y Gymraeg, a beth fydd eich busnes yn ei wneud yn y dyfodol.
Templed Polisi Iaith
Nid oes rhaid i chi gofrestru i ddefnyddio’r ddogfen hon.
Mae swyddogion busnes y Bwrdd yn hapus iawn i roi cyngor i chi ar sut i ddefnyddio’r templed, ond cofiwch mai arf i’ch helpu i lunio Polisi Iaith ydyw. Dogfen er lles eich staff a’ch cwsmeriaid yw Polisi Iaith – nid oes safon cyrhaeddiad ynghlwm ag ef, ac ni fydd y Bwrdd yn ei fonitro.
Os hoffech i un o swyddogion busnes y Bwrdd gysylltu â chi er mwyn cynnig cyngor ar sut i ddefnyddio’r templed, danfonwch e-bost i busnes@byig-wlb.org.uk, neu ffoniwch 029 2087 8000.